Swyddog Ieuenctid Gwledig

Mae cyllid wedi cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin i gyflawni'r rhaglen 'Fy Mhlat Bwyd' drwy ddiogelu un rôl swyddog amser llawn.

Mae'r rhaglen yn cynnal sesiynau rheolaidd i bobl ifanc ddysgu am faeth bwyd, trwy arddangosiadau coginio, annog coginio cartref gyda chynnyrch lleol ffres, a chadw o fewn cyllideb.

Yn ystod y rhaglen, cafodd 38,000 o bobl eu cyrraedd, cafodd 10 digwyddiad eu cefnogi neu eu cynnal, a chafodd 21 o wirfoddolwyr newydd eu recriwtio.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen we neu dilynwch y dudalen Facebook.