Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Y Cynnig
- 3. Cymhwysedd
- 4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 5. Canlyniadau
- 6. Proses Ymgeisio ac Asesu
- 7. Rheolau Caffael
6. Proses Ymgeisio ac Asesu
Yn y lle cyntaf mae'n ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno mynegiant o ddiddordeb. Bydd y mynegiant o ddiddordeb wedyn yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd ac os caiff ei gymeradwyo, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn.
Mae'n rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd yr eitemau canlynol:
- Ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn
- O leiaf dwy flynedd lawn o gyfrifon o'r gorffennol. Os nad yw'r busnes wedi bod yn masnachu ers 2 flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a / neu grynodeb o incwm a gwariant o'r dyddiad dechrau masnachu hyd at y dyddiad ymgeisio
- Caniatâd statudol fel sy'n berthnasol i'r cais e.e. caniatâd cynllunio
- Prawf o berchnogaeth safle, (Dogfen Deitl) neu gopi o brydles wedi'i llofnodi a chydsyniad ysgrifenedig y landlord
- Dyfynbrisiau ysgrifenedig ffurfiol ar gyfer yr eitemau sydd wedi'u cynnwys yn y cais (gweler isod am ganllawiau caffael)
- Prawf o arian cyfatebol
- Datganiad Amgylcheddol / Cynaliadwyedd - Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.
- Tystysgrif presenoldeb yn y cwrs undydd 'Ymwybyddiaeth o Dechnolegau Amgylcheddol'.
Dylid nodi mai grant disgresiwn yw'r Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mi fydd ceisiadau am grantiau dros £10,000 yn cael ei allgyfeirio i'r aelod cabinet i gadarnhau
