Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

2. Y Cynnig

  • Grantiau rhwng £1,000 (lleiafswm) a £30,000 (uchafswm) ar gael tuag at gost y system ynni adnewyddadwy

  • Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys hyd at uchafswm o £30,000

  • Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, rhaid i ymgeiswyr fod â'r modd ariannol i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn y broses hawlio (gweler yn y telerau ac amodau yn y ddogfen hon)
  • Rhaid cyflwyno hawliadau o fewn 4 mis i'r llythyr cynnig neu erbyn 31 Rhagfyr 2026 p'un bynnag yw'r cynharaf.