Grant Tyfu Busnes

1. Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau ledled y sir ac o ganlyniad wedi sicrhau cyllid i ddarparu Grant Twf Busnes Sir Gaerfyrddin a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Twf Lleol.

Nod y pecyn grant yw cryfhau gweithgaredd entrepreneuraidd lleol a chefnogi Mentrau Bach a Chanolig eu Maint ar bob cam o'u datblygiad a dilyniant i ddechrau, cynnal a thyfu.     

Bydd y grant Twf Busnes yn cefnogi busnesau bach a chanolig lleol a buddsoddwyr mewnol i ddod yn wydn ac yn gystadleuol; i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy. Bydd y canlyniad yn gweld swyddi’n cael ei greu ledled y Sir, gan wella'r economi leol felly. Er y rhoddir blaenoriaeth i greu swyddi newydd, cydnabyddir bod diogelu swyddi o dan yr hinsawdd economaidd bresennol hefyd yn hynod bwysig a bydd yn cael ei ystyried yn unol â hynny fesul achos.

Bydd y grant ar agor ar gyfer gwneud cais rhwng  y 11 Mai 2026 a’r 31 Hydref 2026 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.

Cynllun grant busnes fydd y Gronfa, a fydd yn cynnwys cefnogaeth at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (heb gynnwys costau rhedeg parhaus), lle mae swyddi newydd yn cael eu creu oherwydd y cymorth ariannol.

Mae'r canllawiau'n dal i fod yn destun newid oherwydd eu bod yn ddogfen ddrafft ar hyn o bryd