4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
Gwariant Cyfalaf:
Prynu offer newydd neu ail law, e.e, peiriannau, offer arbenigol, ac ati. Sylwch y gallai'r rhain gynnwys eitemau megis tryciau fforch godi, telehandlers, cloddwyr, ac ati, er nid yw cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir yn gymwys. Gweler isod y nodyn ynglŷn â phrynu eitemau ail law
Gellir ystyried cerbydau masnachol arbenigol, ee faniau oergell, faniau at ddibenion arbenigol, arwyddion wedi'u hysgrifennu neu eu gosod ar gyfer defnydd masnachol penodol fesul achos
Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e. llochesi, gazebos, ac ati. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r caniatâd perthnasol os yw'n briodol, h.y. caniatâd cynllunio, trwyddedau, ac ati
Caledwedd TG a Thelathrebu os ydynt wedi eu cysylltu'n uniongyrchol â chyflawni'r prosiect
Gosodion a ffitiadau, dodrefn ac offer swyddfa ac ati fel rhan o symudiad swyddfa neu swyddfa newydd
Gwariant refeniw arbenigol:
Hyfforddiant arbenigol/technegol (nid yn achrededig o reidrwydd)
Comisiynu/Gosod peiriannau
Meddalwedd arbenigol
Cynhyrchu gwefannau, e-fasnach/ siopau ar-lein, apiau, ac ati rhaid cynhyrchu'r holl ddeunydd marchnata a hyrwyddo yn ddwyieithog
Deunyddiau Hyrwyddo a Marchnata (a asesir fesul achos) rhaid cynhyrchu pob deunydd marchnata a hyrwyddo yn ddwyieithog. e.e. arwyddion, ysgrifennu arwyddion cerbydau, deunyddiau arddangos, dillad gwaith brand, ac ati
Ymgynghorwyr Arbenigol (a asesir fesul achos)
Tystysgrif Sicrwydd Ansawdd (a asesir fesul achos)
Costau sy'n gysylltiedig â danfon unrhyw offer cyfalaf