Cysylltedd Digidol: Cefnogi cyflenwyr a gweithredwyr rhwydwaith symudol
Mae dod â gwell cysylltedd i Sir Gaerfyrddin yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae sicrhau bod gan ein trigolion, ein busnesau a'n hymwelwyr fynediad at well band eang a gwell darpariaeth symudol yn rhan sylfaenol o'n Strategaeth Ddigidol ac yn sail i'n hagenda trawsnewid digidol.
Mae ein tîm lleol yn gweithio mewn cydweithrediad â Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac rydyn ni'n rhannu eu dyheadau:
- Band eang gwell i bawb... heb adael neb ar ôl.
- Rhanbarth SMART sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg.
- Tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb.
Cwrdd â'n Hyrwyddwyr Digidol
Richard Walters yw ein Rheolwr Cysylltedd Digidol, ef yw'r unig bwynt cyswllt ar gyfer diwydiant, y llywodraeth, ac adrannau mewnol ar gyfer popeth sy'n ymwneud â gosod seilwaith sefydlog a symudol ledled Sir Gaerfyrddin. Mae gyda ni nifer o gyflenwyr sydd wrthi’n adeiladu seilwaith ar draws y sir ac mae ein timau’n cyfarfod â nhw’n rheolaidd i drafod cyflwyno’n lleol, gweithio drwy unrhyw heriau a all oedi neu effeithio ar amserlenni ar gyfer cyflawni, a darparu diweddariadau gan adrannau mewnol allweddol megis priffyrdd a chynllunio.
Mae ein Swyddogion Ymgysylltu Band Eang yn gweithio gyda chymunedau a busnesau i'w helpu i gael mynediad at fand eang gwell drwy gynlluniau talebau ac ymyriadau eraill. Gallan nhw gynnig cyngor ar dechnoleg amgen ac maent wrth law i wrando ar unrhyw bryderon sydd gan gymunedau neu fusnesau. Os nad oes gennych chi fand eang boddhaol, cysylltwch â’ch tîm lleol a byddan nhw’n rhoi gwybod i chi beth yw eich opsiynau.











