Llwybr Dyffryn Tywi

Llwybr Dyffryn Tywi

Mae llwybr cerdded a beicio nodedig 13 milltir o hyd trwy Ddyffryn Tywi wedi cael ei agor yn swyddogol, gan nodi carreg filltir bwysig o ran teithio cynaliadwy a thwristiaeth yn Sir Gâr.

Mae Llwybr Dyffryn Tywi, sy'n dilyn llwybr hen reilffordd a gaewyd ym 1963, wedi cael ei gyflawni drwy fuddsoddiad o £16.7 miliwn gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â chyllid a chymorth gan Gyngor Sir Caerfyrddin a chontractwyr rhanbarthol allweddol.

Mae'r llwybr yn dilyn llawer o'r hen linell reilffordd, sy'n arbennig o addas ar gyfer prosiect o'r fath, gan gynnig llwybrau gwastad, sydd eisoes wedi eu sefydlu y gellir eu haddasu'n hawdd ar gyfer cerdded, beicio ac olwynio. Mae'r llwybr yn cynnig cysylltiad uniongyrchol, di-draffig a pharhaus rhwng cymunedau, gan gynnig dewis amgen newydd, carbon isel ar gyfer teithio a hamdden.

Bydd Llwybr Dyffryn Tywi yn gyfleuster newydd hir-ddisgwyliedig i breswylwyr ac ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin sy'n cefnogi trafnidiaeth gynaliadwy, hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, ac ysgogi'r twristiaeth leol a'r economi wledig. Mae swyddogion y cyngor yn gweithio gyda darparwyr hamdden, busnesau lletygarwch, a threfnwyr digwyddiadau i wneud y mwyaf o effaith y llwybr a'i gysylltu â llwybrau di-draffig eraill ledled y sir.

 

 

Mae'r llwybr yn cynnig lle diogel, hygyrch a hardd i feicwyr, cerddwyr, teuluoedd ac ymwelwyr, gan eu tywys trwy rai o dirweddau mwyaf ysblennydd Sir Gâr. Ar hyd y ffordd, gall defnyddwyr fwynhau golygfeydd eang ar draws Dyffryn Tywi, gan gynnwys Tŵr Paxton, Castell Dryslwyn a Chastell Dinefwr, sydd wedi'u lleoli yng nghanol cefn gwlad dramatig sy'n llawn bryniau a phantiau. Mae harddwch i'w weld ar y llwybr trwy gydol y flwyddyn wrth i'r dirwedd newid yn gyson trwy gydol y tymhorau.

Mae'r ardal gyfagos yn cynnig cyfoeth o atyniadau i ymwelwyr, gydag Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili a Pharc yr Esgob yn lle heddychlon sy'n agos at y llwybr, yn ogystal â rhai o erddi enwocaf Cymru, gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Aberglasne a Gelli Aur.

Gall y rhai sy'n hoff o fwyd fwynhau mannau lleol ardderchog i gael bwyd, gan gynnwys Wrights Food Emporium, Stacey's Kitchen ac amrywiaeth o gaffis annibynnol a lleoedd i fwyta. Â threfi marchnad bywiog Caerfyrddin a Llandeilo ar bob pen o'r llwybr, mae gan ymwelwyr gyfleoedd gwych i gychwyn neu orffen eu taith drwy siopa a chael ychydig o ddiwylliant a lletygarwch lleol.

Mae'r llwybr yn gweithredu fel coridor diwylliannol a hamdden allweddol. Mae'n annog pobl i aros yn hirach ac i ymweld yn fynych, gan gefnogi'r economi ymwelwyr leol yn uniongyrchol, a sicrhau bod canol trefi, busnesau gwledig a mentrau cymunedol fel ei gilydd yn profi'r buddion economaidd.

Roedd y digwyddiad lansio swyddogol, a gynhaliwyd ddydd Gwener 15 Mai ar Fferm Bremenda Isaf yn ystod Mis Cenedlaethol Cerdded, wedi croesawu mwy na 70 o bobl a ddaeth ynghyd i ddathlu cwblhau'r llwybr rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.

Un o uchafbwyntiau'r digwyddiad oedd gweld Manon Lloyd, y cyn-feiciwr proffesiynol a chyn-bencampwr iau Ewrop, yn beicio i'r dathliad yng nghwmni plant Ysgol Gynradd Nantgaredig, gan arddangos hygyrchedd ac apêl gymunedol gref y llwybr. Roedd Lloyd, a fu'n cystadlu mewn digwyddiadau rhyngwladol mawr gan gynnwys Taith Merched Prydain ac sydd bellach yn gweithio fel cyflwynydd ar TNT Sports yn darlledu digwyddiadau beicio merched a chyd-gyflwynydd podlediad Occurring Femmes wedi ychwanegu tipyn o ysbrydoliaeth i'r achlysur.

Mynychwyd y digwyddiad gan Anna McMorrin, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, a'r Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, yn ogystal â chynrychiolwyr lleol a phartneriaid y prosiect.

 

Ers agor y rhan gyntaf ym mis Ebrill 2025, mae'r llwybr wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel cyrchfan boblogaidd, gyda cherddwyr, beicwyr a theuluoedd yn defnyddio'r llwybr yn helaeth. Mae ei lwyddiant wedi parhau i dyfu, gan gynnal Parkrun yn ddiweddar a ddenodd fwy na 200 o redwyr ac atgyfnerthu ei rôl fel atyniad bywiog ar gyfer hamdden cymunedol. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau cyffrous yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gan gynnwys hanner marathon a gŵyl gerdded.

Disgwylir i Lwybr Dyffryn Tywi chwarae rhan allweddol wrth roi hwb i'r economi ymwelwyr, cefnogi teithio llesol, a chryfhau cysylltiadau rhwng Caerfyrddin a Llandeilo am genedlaethau i ddod.

Yma fe welwch y cwestiynau a'r atebion mwyaf cyffredin sydd gennym am Lwybr Dyffryn Tywi.

 

Mae'r llwybr cyd-ddefnyddio yn bennaf 3 metr o led ac mae wedi'i adeiladu gan ddefnyddio amrywiaeth o arwynebau sy'n addas i'w ddefnydd a'r amgylchedd. Llwybr Beicio yw hwn a dim ond beicwyr a cherddwyr sy'n cael ei ddefnyddio (gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio cymhorthion symudedd a chadeiriau olwyn modur/sgwteri symudedd).

Mae mannau parcio ar gael ger tiroedd yr amgueddfa yn Abergwili ac yn Nhafarn y Railway, Nantgaredig, lle gellir prynu lluniaeth, ynghyd â Chastell Dryslwyn. Mae parcio hefyd ar gael ar safle hen Ysgol Tre-gib sy'n gofyn am daith feic fer ar y ffordd trwy gyffordd â goleuadau traffig i gyrraedd y llwybr.

Gallwch gael mynediad i'r llwybr yn y lleoliadau canlynol: 

  • Palas yr Esgob, Abergwili (Amgueddfa Sir Gaerfyrddin)
  • Nantgaredig
  • Llanarthne
  • Dryslwyn
  • Rhwng Pont Cilsan a Fferm Coleg Gelli Aur
  • Ger Ysgol Bro Dinefwr, Ffair-fach

Rydym yn croesawu mentrau a syniadau masnachol ar hyd y llwybr ac anogir unrhyw bartïon sydd â diddordeb i anfon neges e-bost i twristiaeth@sirgar.gov.uk.

Nid oes mynediad cyhoeddus i'r afonydd ar unrhyw bwynt ar hyd y llwybr.

Gall dyluniad cychwynnol da gyda manyleb a nodweddion priodol leihau'r angen am waith cynnal a chadw. Bydd gwaith cynnal a chadw llystyfiant cychwynnol yn ystod y cyfnod adeiladu, ynghyd â'r dewis o arwyneb, yn sicrhau cyfnod hir heb waith cynnal a chadw ac ychydig iawn o waith wedi hynny, gan gyfrannu at gost bywyd cyfan isel.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu tîm bach o Geidwaid, sy'n ymroddedig i gynnal a chadw ac archwilio'r llwybr. Bydd y tîm hwn yn cael ei gefnogi gan grŵp brwdfrydig o wirfoddolwyr a fydd yn cael eu cydlynu gan CSC. 

Nodweddion Ategol 

Arwyddion – rydym yn y broses o osod arwyddion cyfeiriadol a phaneli dehongli a fydd yn helpu i adrodd stori'r llwybr a thynnu sylw at nodweddion naturiol a hanesyddol y dyffryn. 

Seddi – mae nifer o feinciau wedi'u gosod ar ran orllewinol y llwybr. Gan fod y llwybr yn mynd drwy orlifdir, nid oes cefn ar y meinciau hyn fel nad oes malurion yn mynd yn sownd ynddynt mewn llifogydd. Mae meinciau gyda chefnau wedi cael eu harchebu ar gyfer rhannau o'r llwybr sy'n llai agored i lifogydd. Bydd y rhain yn cael eu gosod erbyn mis Mai.  

Ardaloedd Picnic – mae lleoliadau ar gyfer ardaloedd picnic bach wedi'u nodi yn Nantgaredig, Dryslwyn ac ar y rhodfa bren ger Castell Dinefwr. Mae'r rhain i fod i gael eu gosod cyn bo hir. Oherwydd natur linol y llwybr, hyn a hyn o gyfleoedd sydd i ddarparu ardaloedd picnic mwy, ond gobeithiwn fod hyn yn annog defnyddwyr i grwydro'r cymunedau ar hyd y llwybr sydd â digon o lefydd i eistedd a mwynhau lletygarwch. 

Biniau – mae biniau wedi'u cynllunio i'w gosod erbyn mis Mai. Bydd bin sbwriel a bin ailgylchu ar bob croesffordd - cyfanswm o 16 bin ar hyd y llwybr. 

 

Roedd adroddiad cwmpasu wedi asesu nifer o opsiynau posibl ar y ffordd ac oddi ar y ffordd, a daeth i'r casgliad y dylid defnyddio'r hen reilffordd lle bo modd.

Nodir bod hen reilffyrdd yn gwneud llwybrau cerdded a beicio ardderchog, sydd eisoes yn llwybrau trafnidiaeth uniongyrchol parhaus sy'n cysylltu cymunedau. Maent yn weddol wastad gyda graddiannau graddol, ac mae ganddynt hefyd sylfaen dda ar gyfer adeiladu. Mae'r cysylltiadau â'r canolfannau cymunedol/trefol ar bob pen ac ar hyd y llwybr yn destun gwaith dichonoldeb pellach ac mae opsiynau'n cael eu harchwilio.

Cafodd adroddiadau ac arolygon amgylcheddol ac ecolegol eu cynnal yn gynnar fel bod dyluniadau nid yn unig yn gallu lleihau a dileu'r effaith ar leoliadau sensitif ond eu bod hefyd yn darparu gwelliannau amgylcheddol lle bo hynny'n bosibl. Mae ymrwymiad parhaus wedi'i wneud i weithredu a chynnal a chadw'r llwybr a'r ardal gyfagos mewn ffordd sy'n diogelu ac yn gwella bioamrywiaeth leol. 

Na, er y gall y llwybr groesi tir fferm, nid yw'r tir i'r naill ochr wedi'i wahanu. Mae gan y tirfeddianwyr fynediad o hyd i'w tiroedd fel sydd ei angen arnynt, a hynny trwy gytundeb.

Mae Côd Ymddygiad ar gyfer y llwybr wedi'i ddatblygu i annog pob defnyddiwr i weithredu'n gyfrifol ac i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r llwybr. 

 

Funded by UK Government: Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Hwb