Hen Swyddfeydd y Cyngor / Cyfle Datblygu
Swyddfeydd y Cyngor,
Heol Cilgant,
Llandeilo,
SA19 6HW
Offers over £400,000
- map
Manylion Allweddol
Cyfle arbennig i brynu yr eiddo rhydd-ddaliad mawr hwn yn nhref farchnad hanesyddol Llandeilo. Mae'r eiddo yng nghanol y dref gyda golygfeydd godidog o Ddyffryn Tywi ac mae'n agos at amwynderau a chysylltiadau trafnidiaeth.
Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio yn y gorffennol fel swyddfeydd y Cynghorau, ac mae'n cynnwys ti llawr ar oddeutu 0.28 hectar (0.7 erw).
Fe'i trawsnewidiwyd yn wreiddiol ym 1974 at ddefnydd swyddfa ac yn amodol ar estyniad ac adnewyddu mawr at ddibenion gweinyddol ym 1992. Mae'r eiddo yn rhannol o adeiladwaith brics confensiynol ac yn rhannol o adeiladwaith ffrâm ddur modern o dan do llechi ar oleddf, sy'n cynnig man swyddfa hyblyg a chynllun agored.
Mae'r eiddo amlbwrpas hwn o faint sylweddol sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gan gynnwys gwasanaethau masnachol, proffesiynol, cyfleusterau addysgol, canolfannau cymunedol, cartrefi gofal neu ailddatblygu preswyl (yn amodol ar ganiatâd cynllunio).
