Canolfan Ailgylchu Fasnachol Nantycaws
Heol Llanddarog, Nantycaws, Sir Gaerfyrddin SA32 8BG
Dydd | Amserau Agor |
---|---|
Dydd Llun | 8.00am - 3.30pm |
Dydd Mawrth | 8.00am - 3.30pm |
Dydd Mercher | 8.00am - 3.30pm |
Dydd Iau | 8.00am - 3.30pm |
Dydd Gwener | 8.00am - 3.30pm |
Dydd Sadwrn | 8.00am - 11.00am |
Dydd Sul | Ar gau |
Gwybodaeth bwysig
Bydd angen i chi ddod â'r canlynol i'w dangos i'r gweithiwr ar y safle cyn mynd i mewn:
- Eich Trwydded Cludwyr Gwastraff
- Dangoswch 'Nodyn Trosglwyddo Gwastraff' i'r gweithiwr ar gyfer eich gwastraff
- Sicrhewch fod gennych ffordd o dalu
Pan fyddwch yn cyrraedd, ewch i'r dderbynfa i ddangos eich dogfennau, a darllenwch reolau'r safle.
Yna bydd y staff yn asesu'ch gwastraff ac yn rhoi gwybod i chi am y tâl, a bydd angen i chi ei dalu cyn gwaredu eich gwastraff.
Er enghraifft, bydd fan maint canolig yn llawn cardbord yn costio £15 + TAW.*
*Nodwch fod hyn er mwyn rhoi amcan yn unig ac mae'n bosibl y gall newid.
Ar ôl cael hawl i fynd i mewn i'r ganolfan:
- Cadwch at reolau'r safle
- Baciwch yn ôl i'r bae perthnasol a dadlwythwch eich gwastraff
- Byddwch yn ofalus wrth adael gan fod yr allanfa a'r fynedfa drwy'r un giât