Iechyd a Diogelwch
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/11/2023
Mae'n rhaid i'r holl fusnesau sy'n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin fodloni pob safon a gweithdrefn iechyd a diogelwch berthnasol. Mae ein Tîm Iechyd yr Amgylchedd yn rheoleiddio iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd amrywiol yn Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys archwilio damweiniau penodol y dylid eu cofnodi, digwyddiadau peryglus a chlefydau galwedigaethol; rydym hefyd yn archwilio cwynion yn y gweithle sydd o bwys.
Mae'r busnesau yr ydym yn eu rheoleiddio yn cynnwys swyddfeydd (ac eithrio swyddfeydd y llywodraeth), siopau, gwestai, bwytai, safleoedd hamdden, meithrinfeydd a grwpiau chwarae, tafarndai a chlybiau, amgueddfeydd (sy'n eiddo preifat), mannau addoli, llety gwarchod a chartrefi gofal
Caiff gweithleoedd eraill eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, sy'n cynnwys ffatrïoedd, ffermydd, safleoedd adeiladu, gweithfeydd glo, ysgolion a cholegau, caeau ffair, systemau nwy, trydan a dŵr, ysbytai a chartrefi nyrsio, safleoedd llywodraeth ganolog a lleol a gosodiadau alltraeth.
Mae'n rhaid adrodd am ddamweiniau difrifol yn y gweithle, clefydau galwedigaethol a digwyddiadau peryglus penodol (damweiniau agos) yn unol â Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR). Mae'r rheoliadau hyn yn rhoi dyletswydd ar gyflogwyr, pobl hunangyflogedig a phobl sy'n rheoli safleoedd gwaith (yr unigolyn sy'n gyfrifol) i adrodd yn ffurfiol am y fath digwyddiadau.
Gwneud cwyn
Os ydych chi wedi gweld rhywbeth yn y gweithle yr ydych chi'n credu sy'n torri cyfraith iechyd a diogelwch, a gallai achosi niwed, gellir adrodd amdanynt. Ond cyn i chi wneud hynny, efallai y bydd hi'n bosibl i chi gywiro rhai problemau iechyd a diogelwch trwy siarad â'r person sy'n gyfrifol neu gynrychiolydd undeb.
Er mwyn ein galluogi ni i ddelio â chwynion yn gyflym ac yn effeithiol mae angen inni wybod:
- ble a phryd digwyddodd yr amodau anniogel neu'r ddamwain
- sut y gwnaethoch chi ddarganfod yr amodau anniogel neu'r ddamwain
- ai chi yn unig yr effeithiwyd arno neu a effeithiwyd ar bobl eraill
- eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
E-bostiwch eirch cwyn i diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk
Iechyd yr Amgylchedd
Bwyd a Hylendid
- Cofrestrwch Eich Busnes Bwyd
- Cymeradwyo safleoedd bwyd
- Tystysgrif allforio bwyd
- Arolygiadau hylendid bwyd
- Gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar gyfer busnesau bwyd
- Samplu bwyd
- Alergenau bwyd
- Labelu bwyd
- Labelu bwydlenni
- Newidiadau i gofrestriad sydd eisoes yn bodoli
- Cau Busnes Bwyd
- Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd
- Gofyn am ailarolygiad o'ch busnes bwyd
- Yr 'Hawl i Ymateb' i'ch sgôr hylendid bwyd
- Cyngor busnesau bwyd sylfaenol
- Rheoli diogelwch bwyd
- Hyfforddiant diogelwch bwyd
Mwy ynghylch Iechyd yr Amgylchedd