Arolygiadau ar sail risg
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/03/2024
Mae gan ein harolygwyr yr hawl i fynd i mewn i unrhyw weithle heb roi rhybudd ymlaen llaw. Yn ystod arolygiad arferol, y disgwyl fyddai i arolygydd roi sylw i'r gweithle, i'r gweithgareddau gwaith, a'ch rheolaeth dros iechyd a diogelwch, ynghyd â sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith o ran iechyd a diogelwch.
Gan ddibynnu ar y risg a nodwyd yn sgil peidio â chydymffurfio, gall ein harolygydd gynnig cyfarwyddyd neu gyngor i'ch helpu chi. Hefyd gallant siarad â gweithwyr a'u cynrychiolwyr, tynnu lluniau a chymryd samplau, cyflwyno hysbysiadau gwella a chymryd camau os oes risg y mae angen mynd i'r afael â hi'n syth i iechyd a diogelwch.
Bydd ein swyddogion yn cyflwyno eu hunain pan fyddant yn cyrraedd eich safle ac yn dangos caniatâd a phrawf adnabod os gofynnir am hynny.
Os oes cynrychiolwyr undeb neu staff iechyd a diogelwch ar safle, fel arfer bydd ein swyddogion yn cwrdd â nhw i glustnodi unrhyw bryderon neu broblemau yn y gweithle.
Mae gan ein swyddogion bwerau penodol dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 y gallant eu defnyddio yn ystod arolygiad.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Mynd i mewn i'r eiddo ar unrhyw adeg resymol
- Cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau
- Cymryd mesuriadau a samplau, a thynnu lluniau
- Meddiannu eitemau neu sylweddau
- Ei gwneud yn ofynnol i bobl roi gwybodaeth gywir a chymryd datganiadau ganddynt
- Archwilio a chopïo unrhyw ddogfennau perthnasol
Yn ystod arolygiad, bydd swyddog yn sicrhau bod rheolwyr eich sefydliad yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch ac yn gofyn am wybodaeth neu dystiolaeth i ddangos hynny, yn aml ar ffurf asesiadau risg. Arsylwir hefyd ar yr amgylchedd gwaith a'r gweithgareddau gwaith ac fe'u harchwilir.
Mae amlder yr arolygiadau yn dibynnu ar y gweithgaredd sy'n cael ei wneud ar eich safle a'r risgiau cysylltiedig. Rhoddir sgôr i'r eiddo yn dilyn arolygiad yn unol â chyfarwyddyd cenedlaethol. Mae amlder yr arolygiadau yn amrywio o rai blynyddol i rai bob pedair blynedd. Mae'n bosibl na fyddwn yn arolygu safleoedd risg uchel fel rheol, fodd bynnag bydd ein swyddogion yn cadw mewn cysylltiad â'r fath busnesau trwy ffyrdd gwahanol. Ni fyddwch yn gwybod pa mor aml y byddwch yn cael eich arolygu.
Mae swyddogion awdurdodedig o'n Tîm Diogelu'r Cyhoedd yn cyflawni arolygiadau yn safleoedd priodol yn Sir Gaerfyrddin.
Os gwelir bod y gyfraith o ran iechyd a diogelwch wedi cael ei thorri, bydd ein harolygydd yn penderfynu pa gamau i'w cymryd. Bydd y camau'n dibynnu ar natur y toriad, ac yn cael eu seilio ar yr egwyddorion a nodir yn ein Polisi Gorfodi. Bydd ein harolygydd yn rhoi gwybodaeth i'r gweithwyr neu eu cynrychiolwyr am unrhyw gamau a gymerir, neu gamau sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am faterion sy'n effeithio ar iechyd, diogelwch, a lles.
Os gwelir bod y gyfraith o ran iechyd a diogelwch wedi cael ei thorri, bydd yr arolygydd yn penderfynu pa gamau i'w cymryd. Bydd y camau yn dibynnu ar natur y toriad, ac yn cael eu seilio ar yr egwyddorion a nodir yn ein Polisi Gorfodi. Dylai'r arolygydd roi gwybodaeth i'r gweithwyr neu eu cynrychiolwyr am unrhyw gamau a gymerir, neu gamau sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am faterion sy'n effeithio ar iechyd, diogelwch, a lles.
Mae sawl ffordd y gellir cymryd camau gorfodi er mwyn ymdrin â thoriad yn y gyfraith. Yn y rhan fwyaf o achosion gwneir fel a ganlyn:
Anffurfiol: Lle bo'r toriad yn y gyfraith yn un cymharol ddi-nod, gall yr arolygydd ddweud wrth y deiliad dyletswydd, er enghraifft y cyflogwr neu'r contractwr, beth i'w wneud er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith ac egluro pam y mae'n rhaid gwneud hynny. Wedyn bydd yr arolygydd yn cadarnhau unrhyw gyngor a roddir yn ysgrifenedig, ac yn gwahaniaethu rhwng argymhellion a gofynion cyfreithiol (cyngor ynghylch arferion da).
Hysbysiad Gwella: Lle bo'r toriad yn y gyfraith yn fwy difrifol, gall yr arolygydd roi hysbysiad gwella er mwyn dweud wrth y deiliad dyletswydd am wneud rhywbeth er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith. Bydd yr arolygydd yn trafod yr hysbysiad gwella ac, os yw'n bosibl, yn unioni gwahaniaethau cyn ei gyflwyno. Bydd yr hysbysiad yn nodi'r hyn sydd angen ei wneud, pam y mae angen ei wneud, ac erbyn pryd. Bydd y cyfnod a ganiateir ar gyfer cymryd y camau yn 21 diwrnod o leiaf, er mwyn rhoi amser i'r deiliad dyletswydd apelio i dribiwnlys diwydiannol os yw'n dymuno. Gall yr arolygydd gymryd camau cyfreithiol pellach os na chydymffurfir â'r hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.
Hysbysiad Gwahardd: Lle bo risg o anaf personol difrifol wrth wneud gweithgaredd, gall yr arolygydd gyflwyno hysbysiad gwahardd a fydd yn gwahardd y gweithgaredd yn syth neu ar ôl cyfnod penodedig, gan atal y gweithgaredd hwnnw rhag ailddechrau hyd nes bod camau gwella wedi cael eu cymryd. Bydd yr hysbysiad yn egluro pam y mae'r camau'n angenrheidiol. Rhoddir gwybod i'r deiliad dyletswydd yn ysgrifenedig am yr hawl i apelio i dribiwnlys diwydiannol.
Erlyniad:Mewn rhai achosion gallai'r arolygydd fod o'r farn fod angen cychwyn erlyniad. Bydd yr egwyddorion yn ein Polisi Gorfodi yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch a ddylid erlyn. Mae'r gyfraith o ran Iechyd a Diogelwch yn rhoi cryn rym i'r llysoedd o ran cosbi troseddwyr a pheri i eraill ofni troseddu. Er enghraifft gallai methu cydymffurfio â hysbysiad gwella neu wahardd, neu orchymyn rhwymedi llys, olygu dirwy o hyd at £20,000 neu chwe mis yn y carchar, neu'r ddau. Gall llysoedd uwch roi dirwyon di-derfyn neu, mewn rhai achosion, gyfnod yn y carchar.
Rhoddir gwybod i'r deiliad dyletswydd yn ysgrifenedig am yr hawl i apelio i dribiwnlys diwydiannol pan gyflwynir hysbysiad gwella neu wahardd. Hefyd eglurir y dull apelio ar gefn yr hysbysiad. Dywedir wrth y deiliad dyletswydd:
- Sut mae apelio (a rhoddir ffurflen iddo/iddi i'w defnyddio i apelio
- Lle y gellir apelio ac o fewn pa gyfnod
- Bod y camau gwella sy'n ofynnol gan yr hysbysiad gwella yn cael eu gohirio tra bo apêl ar waith
Iechyd yr Amgylchedd
Bwyd a Hylendid
- Cofrestrwch Eich Busnes Bwyd
- Cymeradwyo safleoedd bwyd
- Tystysgrif allforio bwyd
- Arolygiadau hylendid bwyd
- Gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd ar gyfer busnesau bwyd
- Samplu bwyd
- Alergenau bwyd
- Labelu bwyd
- Labelu bwydlenni
- Newidiadau i gofrestriad sydd eisoes yn bodoli
- Cau Busnes Bwyd
- Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd
- Gofyn am ailarolygiad o'ch busnes bwyd
- Yr 'Hawl i Ymateb' i'ch sgôr hylendid bwyd
- Cyngor busnesau bwyd sylfaenol
- Rheoli diogelwch bwyd
- Hyfforddiant diogelwch bwyd
Mwy ynghylch Iechyd yr Amgylchedd