Tenantiaid
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/01/2025
Gallwch fod yn sicr y byddwch yn byw mewn llety o safon pan fyddwch yn rhentu cartref drwy Gosod Syml.
Mae pob eiddo yn cael ei archwilio a'i gymeradwyo gan swyddog awdurdodedig o Gyngor Sir Caerfyrddin cyn cael ei roi ar rent. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n landlordiaid er mwyn sicrhau y bodlonir yr holl reoliadau, er mwyn i chi gael tawelwch meddwl eich bod chi a'ch teulu yn byw mewn cartref sy'n ddiogel.
Rydym yma i helpu gyda'ch holl anghenion o ran tenantiaeth. Cyn i chi gofrestru tenantiaeth gyda ni, bydd gofyn i chi gwblhau cwrs cyn-denantiaeth gyda'n tîm mewnol.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r uchod, byddwn yn ceisio eich helpu i gofrestru a dechrau eich tenantiaeth gyda ni.
Byddwn yn gallu eich helpu a'ch cefnogi i sicrhau bod eich tenantiaeth yn llwyddo. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, yna, mae croeso i chi anfon neges e-bost at gosodsyml@sirgar.gov.uk.
Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, cysylltwch â ni fel y gallwn eich helpu a'ch cyfeirio at y gefnogaeth orau bosibl, cysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch.
Dim ond atgyfeiriadau gan dîm dewisiadau tai Cyngor Sir Caerfyrddin rydym yn eu derbyn yn Gosod Syml. Os ydych yn dymuno bod yn un o'n tenantiaid, cysylltwch â nhw i drafod eich anghenion tai ac i ddarganfod a ydych yn gymwys am eiddo Gosod Syml. Bydd y tîm dewisiadau tai yn medru trafod dewisiadau tai eraill â chi hefyd. Ffoniwch 01554 899389 o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.45am a 5pm (4.30pm ar ddydd Gwener).
Talwch eich rhent ar-lein, bydd angen eich cyfeirnod arnoch.
Gallwch hefyd dalu'ch rhent yn bersonol yn un o'r canolfannau Hwb.
Neu dros y ffôn - 01267 679900
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn casglu eich rhent ar ran eich landlord. Byddwch yn cael eich ailgyfeirio at system talu rhent y cyngor er mwyn talu eich rhent a chael golwg ar eich cyfrif rhent.
Rhowch wybod am broblemau cyn gynted â phosibl. Os nad yw rhywbeth yn gweithio'n iawn neu os yw rhywbeth wedi torri, rhowch wybod i ni ar e-bost gosodsyml@sirgar.gov.uk
Ar ôl i chi symud i mewn, byddwn yn trefnu i ymweld â chi ymhen y ddau fis cyntaf er mwyn sicrhau eich bod yn setlo. Byddwn fel arfer yn ymweld â chi bob tri i chwe mis ar ôl hynny i weld os oes unrhyw faterion cynnal a chadw ac i sicrhau eich bod yn cynnal yr eiddo'n dda. Mae'r ymweliadau hyn hefyd yn gyfle i drafod unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r denantiaeth neu'r rhent. Rhoddir rhybudd o 24 awr o leiaf cyn unrhyw ymweliad â'ch cartref. Byddwn yn trefnu dyddiad ac yn rhoi gwybod i chi tua pha amser byddwn yn ymweld â chi. Ni ddylai ein hymweliadau bara mwy na hanner awr.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am atal lleithder a llwydni ar ein tudalen we Ymdrin â lleithder a llwydni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at GosodSyml@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol, beth mae'n ei olygu a sut y gallwn helpu.
Rydym yn eich annog i gofnodi digwyddiadau gyda'r heddlu ar 111 neu 999 mewn argyfwng.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau we; Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016