Cyn-llety
Yn y Gwasanaethau Tai, mae gennym dîm Cyn-llety pwrpasol sy'n cefnogi tenantiaid newydd pan fyddant yn symud i mewn i un o'n heiddo neu o fewn y Sector Rhentu Preifat. Gallwch gael mynediad i'n cangen hyfforddi i weld sut y gallwn eich helpu a chael cyngor, cymorth ac awgrymiadau ymarferol cyn i chi ddechrau contract newydd.
Pan fyddwch wedi arwyddo ar gyfer eiddo, gallwn eich helpu i gael budd-daliadau neu grantiau y gallech fod yn gymwys i'w derbyn. Byddwn hefyd yn cynnal ymarfer cynyddu incwm i weld a ydych yn cael yr holl arian y mae gennych hawl iddo.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adrannau isod neu cysylltwch â ni drwy e-bost - CynLlety@sirgar.gov.uk