Parod am Denantiaeth
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2024
Bydd angen i chi dalu Contract Meddiannaeth. Mae eich contract yn ddogfen gyfreithiol sy’n amlinellu beth yw eich cyfrifoldebau a beth yw cyfrifoldebau eich landlord.
Mae yna wahanol fathau o gontractau:
Contract diogel
Ar gyfer ymgeiswyr a fydd yn dod yn denantiaid y Cyngor neu Gymdeithas Tai (landlordiaid cymdeithasol). Mae landlordiaid cymdeithasol bellach yn cael eu hadnabod fel landlordiaid cymunedol a thenantiaid fel deiliaid contract.
Contract Safonol
Ar gyfer ymgeiswyr sy'n dod yn denantiaid i landlord preifat. Weithiau byddwn yn defnyddio’r contract hwn ar gyfer pobl sy’n symud i lety dros dro, ochr yn ochr â hysbysiad.
Trwydded
Ar gyfer rhai ymgeiswyr sy'n symud i lety dros dro.
Tai
Mwy ynghylch Tai