Digartrefedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2024

Os nad oes gennych unman i aros heno, neu os ydych yn pryderu y gallech fynd yn ddigartref, ffoniwch ni ar 01554 899389 yn ystod oriau swyddfa (8:45am - 5pm, dydd Llun i ddydd Iau, Dydd Gwener 8:45am - 4:30pm). Y tu allan i oriau swyddfa ffoniwch Llesiant Delta ar 0300 333 2222.

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau amdanoch chi a'ch cartref, a byddai'n ddefnyddiol pe bai gennych y wybodaeth ganlynol wrth law pan fyddwch yn ein ffonio:

  • enwau a dyddiadau geni pawb yn eich cartref
  • pum mlynedd o hanes cyfeiriad
  • gwybodaeth am unrhyw gyflyrau meddygol neu anghenion am gymorth
  • manylion eich incwm ac unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn

Os ydych o dan 16 oed a bod eich teulu neu'ch rhieni wedi dweud wrthych am adael dylech ffonio ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01554 742322. Os ydych dros 16 oed ffoniwch ni ar 01554 899389 neu 0300 333 2222 (y tu allan i oriau swyddfa), yn ddelfrydol byddwn am siarad â'ch teulu i weld a allwn helpu i ddatrys y sefyllfa. Byddwn yn eich cyfeirio at weithiwr cymorth a fydd yn siarad â chi am yr help sydd ei angen arnoch. Gallai hyn fod yn bethau fel dod o hyd i rywle i fyw, rheoli tenantiaeth, cyllidebu eich arian, addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Gall y gweithiwr cymorth hefyd eich helpu i gael help gan asiantaethau eraill.

Cofiwch, does dim rhaid i chi fod yn cysgu ar y stryd i fod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Gallech fod:

  • mewn perygl o drais neu gam-drin yn eich cartref
  • yn byw mewn amodau gwael
  • yn methu fforddio eich taliadau morgais neu rent
  • yn symud rhwng soffas neu'n aros dros dro yng nghartref teulu neu ffrindiau
  • yn byw yn rhywle lle nad oes gennych hawl gyfreithiol i aros (e.e. sgwatio) neu'n
  • byw yn rhywle nad yw bellach yn addas i chi oherwydd salwch neu anabledd

Mae'n bwysig eich bod yn cael cyngor cyn gynted â phosibl. Gall cael help yn gynnar atal eich problem dai rhag mynd yn argyfwng. Cofiwch, os nad oes gennych unman i aros heno, ffoniwch ni cyn gynted â phosibl