Prawf Bwriadoldeb

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2024

Mae'r Hysbysiad hwn i roi gwybod i chi y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin, o ddydd Llun, 18 Rhagfyr 2023, yn cymhwyso'r "Prawf Bwriadoldeb".

Dyma hysbysiad i bobl sy'n gofyn i'r cyngor am gymorth pan fyddant yn ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref.

Daeth deddfwriaeth Tai Newydd, Deddf Tai (Cymru) 2014 i rym yng Nghymru o 27 Ebrill 2015. Mae hyn yn newid y gyfraith yn sylweddol o ran sut mae Awdurdodau Tai Lleol yn ymdrin â cheisiadau gan bobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Ym mis Hydref 2022 daeth Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022 i rym a ychwanegodd gategori newydd o ran Angen Blaenoriaethol sef Digartref ac ar y Stryd.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn asesu bwriadoldeb a bydd yn parhau i wneud hynny ar gyfer yr holl grwpiau o gleientiaid a nodir isod:

  • Menyw feichiog neu berson y mae'n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef
  • Person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sy'n agored i niwed o ganlyniad i ryw reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sy'n 16 neu'n 17 oed
  • Person sy'n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio'r sawl sy'n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety. Ond nid 21 oed, sy'n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed
  • Person sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod lleol ac sy'n agored i niwed o ganlyniad i un o'r rhesymau canlynol –
    • Wedi cael dedfryd o garchar o fewn ystyr Adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000
    • Wedi cael ei remandio i'r ddalfa neu wedi'i gadw yn y ddalfa drwy orchymyn llys
    • Wedi cael ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan Adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, neu berson y mae person o'r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sy'n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu y gellid disgwyl yn rhesymol i berson breswylio gydag ef

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad hwn, cysylltwch â'r Hwb Tai.
Rhif ffôn cyswllt – 01554 899389 neu e-bost – schoptions@sirgar.gov.uk