Cymorth i brynu tŷ
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2024
Os ydych chi'n ystyried prynu tŷ ond yn cael trafferth i ddod o hyd i dŷ o fewn eich cyllideb, mae'n bosibl y gallwn eich helpu. Mae tai fforddiadwy ar gyfer pobl sy'n gallu cael morgais ond sy'n methu â fforddio tŷ addas ar y farchnad agored. Byddech chi’n prynu tŷ newydd gan y datblygwr neu dŷ presennol sy’n cael ei werthu gan y perchennog presennol.
Fel arfer mae'r tai fforddiadwy yn cael eu gwerthu ar sail rhannu ecwiti. Mae hyn yn golygu eich bod chi'n prynu canran o'r tŷ a byddwn ni'n cadw'r gyfran sy'n weddill.
Mae'n bosibl y gallwn ni eich helpu os bydd y canlynol yn berthnasol:
- Gallwch chi brofi y gallwch chi gael morgais a bod gennych arian ar gyfer blaendal a ffioedd cyfreithiol. (Bydd y blaendal sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar feini prawf benthyg darparwr eich morgais.)
- Mae cyfanswm incwm eich aelwyd cyn tynnu treth yn llai na thraean gwerth y tŷ ar y farchnad agored.
- Rydych yn byw, neu’n gweithio’n amser llawn, yn Sir Gaerfyrddin, neu mae gennych gysylltiad lleol hir-sefydledig â Sir Gaerfyrddin, er enghraifft teulu agos yn yr ardal.
Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i denantiaid y Cyngor a thenantiaid cymdeithasau tai yn Sir Gaerfyrddin. Ni fyddwn yn eich ystyried os ydych:
- ar hyn o bryd yn berchen, ar eich pen eich hun neu ar y cyd â rhywun arall, ar dŷ arall, oni bai na allwch fyw yno (er enghraifft, ar ôl tor-perthynas);
- yn gwrthod rhoi manylion eich incwm a'ch cynilon i ni; neu
- yn prynu ag arian parod.
Ar ôl i chi gofrestru gyda ni ar gyfer tŷ fforddiadwy, gallwch gael negeseuon e-bost ynghylch tai sydd ar werth. Hefyd gallwch weld y tai sydd ar werth ar ein gwefan ac ar wefan Canfod Cartref. Os gwelwch dŷ yr hoffech ei brynu, bydd angen i chi sicrhau bod manylion eich cais yn gyfredol o ran y canlynol:
- eich incwm;
- eich cynilon;
- aelodau o'r teulu sy'n symud gyda chi, gan gynnwys p'un a fyddwch yn prynu'r tŷ gyda rhywun arall.
Hefyd bydd angen i ni gael tystysgrif morgais gan fanc neu gymdeithas adeiladu sy'n cadarnhau y rhoddir morgais i chi am y swm y mae angen i chi ei gael i brynu'r tŷ.
Os ydych yn gweld tŷ yr hoffech ei brynu byddwch yn mynegi eich diddordeb yn y tŷ drwy wneud 'cynnig'. Nid oes gan gynnig unrhyw werth ariannol. Mae'n golygu dangos bod diddordeb gennych yn y tŷ. Byddwn yn asesu eich cynnig i brynu tŷ fforddiadwy trwy ddefnyddio'r meini prawf yn ein Polisi Tai Fforddiadwy.
Os byddwch yn cael eich enwebu i brynu tŷ fforddiadwy, byddwn ni'n gofyn i chi lenwi datganiad statudol. Datganiad ffurfiol yw hwn, wedi'i lofnodi ym mhresenoldeb comisiynydd llwon, (mae hwn yn rhywun, fel cyfreithiwr, sydd wedi'i awdurdodi i wirio llwon a dogfennau cyfreithiol eraill) sy'n cadarnhau bod y wybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni yn wir. Os ydych chi'n dweud celwydd mewn datganiad statudol, efallai y bydd hyn yn drosedd. Os oes gennym fwy nag un person sydd eisiau prynu cartref, darperir rhestr fer i berchennog / datblygwr y cartref yn unol â'n Polisi Cartrefi Fforddiadwy.