Cwestiynau cyffredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 13/06/2019

Mae tai fforddiadwy i unrhyw un nad yw'n gallu fforddio tŷ ar y farchnad agored, mae hyn yn cynnwys:

  • Prynwyr am y tro cyntaf.
  • Teulu ag aelod o'r teulu sy'n anabl nad yw'n gallu fforddio tŷ wedi'i addasu.
  • Person sengl a brynodd dŷ gyda phartner ond wedi gorfod gwerthu'r tŷ oherwydd bod y berthynas wedi dod i ben ac ni all fforddio prynu tŷ newydd ar y farchnad agored.

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, ond yn grynodeb o'r gwahanol sefyllfaoedd lle'r ydym yn gallu helpu. I gael gwybod a allech fod yn gymwys i gael tŷ fforddiadwy, gweler ein meini prawf.

Os byddwch yn llwyddo i brynu tŷ fforddiadwy, bydd yn ofynnol i chi dalu ffi weinyddol o £250 a ffi o £150 i gofrestru'r tâl cyfreithiol gyda'r Gofrestrfa Tir. Mae'r ffïoedd hyn yn ychwanegol at y ffïoedd y byddwch yn eu talu i'ch cyfreithiwr.

Ar gyfer tai newydd: rydym yn ceisio gwneud y defnydd gorau o'r lle mewn tŷ drwy flaenoriaethu parau neu deuluoedd a fyddai'n fwyaf addas i faint y tŷ. Amlinellir y ffordd yr ydym yn blaenoriaethu tai yn ein Polisi Tai Fforddiadwy.

Ar gyfer tai sy'n cael eu hailwerthu: (mae'r rheiny'n dai fforddiadwy newydd eu hadeiladu y mae'r perchnogion presennnol eisiau eu gwerthu). Os hoffech brynu tŷ fforddiadwy sy'n cael ei ailwerthu, bydd angen i chi gofrestru gyda ni er mwyn i ni wirio eich bod yn bodloni'r meini prawf.

Os ydych yn gymwys, bydd angen i chi drefnu i ymweld â'r tŷ drwy gysylltu â'r perchennog neu'r asiant tai. Bydd y perchennog wedyn yn rhoi gwybod i ni ei fod wedi penderfynu gwerthu'r tŷ i chi.

Nodwch: Byddech yn prynu'r tŷ newydd ei adeiladu o'r datblygwr a'r tŷ sy'n cael ei ailwerthu o'r perchennog presennol; Nid Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gwerthu'r tŷ, byddwn yn enwebu'r person y dylai'r datblygwr neu’r perchennog ei werthu iddo.

I wneud cais am dŷ fforddiadwy, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda ni.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon cyfeirnod a chyfrinair atoch dros e-bost y gallwch eu defnyddio i fewngofnodi i'ch cyfrif Canfod Cartref i gwblhau'ch cais a lanlwytho unrhyw ddogfennau yr ydym wedi gofyn amdanynt.

Bydd angen i chi gofrestru i gael y diweddaraf dros e-bost, a byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am dai sydd ar werth yn yr ardaloedd y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Bydd yr holl dai sydd ar werth yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan Canfod Cartref.

Caiff y tai hefyd eu rhestru ar ein gwefan ac mae ganddynt ragor o wybodaeth a manylion cyswllt y gwerthwr.

Gallwch fynegi diddordeb mewn tŷ drwy gyflwyno cynnig ar wefan Canfod Cartref. Nid oes gan gynnig unrhyw werth ariannol ac nid yw'n eich ymrwymo chi i brynu'r tŷ.

Cyn i chi gyflwyno cynnig, bydd angen i chi sicrhau bod eich cais yn gyfredol o ran y canlynol:

Defnyddir Canfod Cartref ar gyfer tai rhentu cymdeithasol yn ogystal â thai i'w prynu. Gallwch gyflwyno cynigion i brynu tai mewn unrhyw ardal.

Gallwch gyflwyno cynigion ar gyfer cynifer o dai ag yr hoffech. Os ydych yn penderfynu cyflwyno cynnig ar gyfer mwy nag un tŷ gallwch roi gwybod i ni am yr un sy'n well gennych drwy anfon e-bost wrth gyflwyno'ch cynnig.

Ni fydd eich cynnig yn cael ei dderbyn os nad yw'ch cais yn gyfredol neu os nad ydych wedi darparu/cyflwyno'r gwaith papur neu'r wybodaeth y gofynnwyd amdanynt.

Os, yn anffodus, bydd eich cynnig yn aflwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyhyd â'ch bod wedi lanlwytho tystysgrif ddilys o forgais mewn egwyddor ar yr adeg i chi gyflwyno'r cynnig.

Nac ydych, rydych yn talu eich ad-daliadau morgais y cytunir arnynt yn unig.

Cewch, bydd tai newydd yn cael eu rhoi ar werth tra byddant yn cael eu hadeiladu. Drwy wneud hyn, gellir dod i gytundeb gwerthu ymhell ymlaen llaw, a gallwch symud cyn gynted ag y bydd y tŷ newydd yn barod.

Hefyd gall roi cyfle ichi gytuno ar unrhyw ddewisiadau y bydd y contractwr adeiladu'n eu cynnig megis paneli haul neu ddewis y math o gegin.

Oes, mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag amodau'r cytundeb cyfreithiol y gwnaethoch ei lofnodi adeg prynu eich tŷ. Ymhlith yr amodau arferol mae:

  • Canran eich tŷ y gallwch ei gwerthu;
  • Dim ond i rywun yr ydym ni'n cadarnhau bod arno/arni angen tŷ fforddiadwy y gellir gwerthu'r tŷ; a
  • mae'n rhaid i'r perchennog newydd fyw neu weithio yn Sir Gaerfyrddin.

Os ydych yn ystyried gwerthu eich tŷ a'ch bod yn ansicr ynghylch eich amodau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Na chewch, byddwn yn cadw ein canran ni er mwyn i'r tŷ ddal i fod yn fforddiadwy i ymgeiswyr yn y dyfodol.

Cewch. Er enghraifft, os ydych wedi prynu tŷ dwy ystafell wely a bod eich teulu'n tyfu, byddem yn ystyried eich cais am dŷ fforddiadwy tair ystafell wely ar yr amod eich bod yn gwerthu eich tŷ presennol o dan y meini prawf tai fforddiadwy.

Fodd bynnag, ni allwn roi sicrwydd bob amser y byddwch yn gallu gwerthu eich tŷ yr un pryd ag y byddwn yn gallu cynnig un arall i chi.