Talu eich rhent

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2024

Y ffordd hawsaf o dalu eich rhent yw drwy Ddebyd Uniongyrchol, pan fyddwch wedi ei drefnu, bydd eich rhent yn cael ei dalu ar amser bob mis. Y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw cysylltu â ni a gallwn drefnu dros y ffôn ar 01267 228938, neu gallwch lawrlwytho ffurflen a'i ddychwelyd atom.

Gallwch dalu eich Debyd Uniongyrchol ar unrhiw ddiwrnod rhwng y 1af a'r 28ain o'r mis. Bob mis, mae pawb sy'n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill gwobr o £50.

Gallwch hefyd dalu ar-lein neu dros y ffôn trwy gerdyn debyd. Rydym yn derbyn cerdyn debyd Maestro, Solo neu Visa. Os hoffech chi siarad ag aelod o staff ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau’r swyddfa. Fel arall, gallwch ffonio ein llinell taliadau ffôn awtomataidd (24awr) ar 01267 679900. Os byddai'n well gennych chi dalu'n bersonol, gallwch dalu eich rhent yn unrhyw un o'n 3 Swyddfeydd Talu trwy gerdyn arian parod, siec, cerdyn neu gerdyn giro. Gallwch hefyd ddefnyddio cerdyn giro yn Swyddfa'r Post.

Os nad ydych chi'n sicr faint o rent y mae angen i chi ei dalu, gallwch greu cyfrif ar-lein - mae'n gyflym, yn hawdd ac yn ddiogel. Fe allwch chi weld eich taliadau rhent a gweld faint y mae angen i chi ei dalu.

Bydd angen rhif cyfeirnod eich cyfrif rhent arnoch, sy'n 13 neu 14 o ddigidau, i wneud taliad neu i sefydlu cyfrif ar-lein.

Gwneud cais am ffurflen Debyd Uniongyrchol Talu eich rhent