Fe ddylech chi fel tenant wneud y canlynol; 

  • Edrych ar ôl yr eiddo. Efallai y bydd angen i chi gael caniatâd eich landlord i wneud atgyweiriadau neu i ailaddurno. Byddwch chi hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw gerddi i ddefnyddio cyfleusterau sbwriel ac ailgylchu. 
  • Bod yn gyfrifol ac osgoi ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. 
  • Sicrhau eich bod yn gwybod sut i weithredu'r boeler a chyfarpar eraill, yn ogystal â gwybod ble mae'r mesuryddion, y blwch ffiwsiau a’r stopfalf. 
  • Profi eich larymau mwg a'ch synwyryddion carbon monocsid o leiaf unwaith y mis i sicrhau eu bod yn gweithio.
  • Rhoi gwybod i'ch landlord neu’ch asiant am unrhyw waith atgyweirio neu gynnal a chadw sydd angen ei wneud, cyn gynted â phosibl, i osgoi problem atgyweirio fawr. 

 

Mae gan eich landlord neu’ch asiant ystod o gyfrifoldebau, gan gynnwys:

  • Cynnal a chadw strwythur a thu fas yr eiddo.
  • Cynnal a chadw unrhyw offer neu gelfi y maent wedi'u darparu mewn cyflwr da, gan gynnwys profi dyfeisiau cludadwy o ran eitemau trydanol fel oergelloedd neu ffyrnau sy'n osodiadau i'r eiddo. 
  • Sicrhau bod yr holl offer nwy yn cael eu gosod a'u cynnal a'u cadw'n ddiogel.  Trefnu gwiriad diogelwch nwy blynyddol gan Beiriannydd Nwy cymwys.
  • Sicrhau bod yr eiddo yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân.
  • Rhoi Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) i chi ar gyfer yr eiddo. 
  • Sicrhau ei fod (y landlord neu’r asiant) wedi'i gofrestru a'i drwyddedu i weithredu fel landlord. Bydd y cynllun cofrestru a thrwyddedu yn cael ei gyflwyno drwy Rhentu Doeth Cymru.
  • Gwneud atgyweiriadau y mae’n gyfrifol amdanyn nhw, gan roi o leiaf 24 awr o rybudd cyn ymweliadau pan fydd angen iddo gael mynediad i'ch cartref (hynny yw, ar gyfer atgyweiriadau). 
  • Yswirio'r adeilad am unrhyw ddifrod oherwydd tân neu lifogydd.

 

Gofyn am wasanaeth

Cam 1

  1. Mae disgwyl i chi gysylltu â'ch landlord neu’ch asiant yn y lle cyntaf a rhoi gwybod iddoam y broblem. Gofynnwn i chi ofyn i'ch landlord neu’ch asiant gadarnhau yn ysgrifenedig (hynny yw, trwy lythyr, e-bost neu neges destun) faint o amser y bydd yn ei gymryd i gwblhau unrhyw atgyweiriadau, fel eich bod yn ymwybodol o'r amserlenni ar gyfer cwblhau’r gwaith. 
  2. Os nad yw’r gwaith wedi’i gwblhau o fewn yr amserlenni penodedig, cysylltwch â’ch landlord neu’ch asiant i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan roi cyfle iddo ymateb i’r mater a darparu terfyn amser pellach ar gyfer cwblhau’r gwaith. Gofynnwn i chi gysylltu â nhw yn ysgrifenedig (hynny yw trwy lythyr, e-bost neu neges destun) fel bod gennych gofnod o'ch cais. 
  3. Os yw'r terfyn amser wedi mynd heibio a bod yr atgyweiriadau heb eu cwblhau o hyd, rhowch wybod i'ch landlord nad oes gennych unrhyw opsiwn arall ond i fynegi'ch pryderon i Dîm Gorfodi Tai'r Cyngor a symud ymlaen i Gam 2.

 

Cam 2

  1. Byddwn yn derbyn cwynion dim ond pan fyddwch wedi dilyn y camau yng Ngham 1 ac wedi rhoi gwybod i'ch landlord neu'ch asiant am eich pryderon. Bydd gofyn i chi gadarnhau'r dyddiad y gwnaethoch gyflwyno eich pryderon/cais am atgyweiriadau gyntaf, yn ogystal ag ail ddyddiad pan wnaethoch gysylltu â'ch landlord neu’ch asiant i fynd ar drywydd y mater. 
  2. Cysylltwch â ni a byddwn yn ceisio ymchwilio i'r mater ar eich rhan. Bydd angen eich manylion arnom, enw eich landlord/asiant a’i fanylion cyswllt, a disgrifiad o'r broblem/problemau. Sylwer, os ydych yn denant i’r Cyngor, rhaid i chi gyfeirio eich cwyn at eich Swyddog Tai Cyngor lleol. 
  3. Rydym yn blaenoriaethu cwynion yn dibynnu ar fregusrwydd tenantiaid a'r math o berygl/peryglon a nodwyd.  Byddwch yn ymwybodol y gallai gymryd hyd at 2 wythnos i ymateb i’ch cwyn os caiff ei hasesu fel ‘Blaenoriaeth Isel’. Yn y cyfamser tra byddwch yn aros i’ch cwyn gael ei blaenoriaethu, byddem yn argymell eich bod yn ymweli ar unrhyw un o’r dolenni isod sy’n ymwneud â’ch cwyn.
  4. Byddwn wedyn yn cysylltu â chi ac yn trefnu ymweliad i archwilio eich eiddo am beryglon. Bydd eich landlord neu’ch asiant gosod tai hefyd yn cael gwybod am yr ymweliad yn dilyn cwyn gan ei denant. Yn dibynnu ar y gŵyn, efallai y bydd angen i'r landlord neu'r asiant fod yn bresennol pan fyddwn yn archwilio'r eiddo.
  5. Bydd unrhyw beryglon a nodir yn cael eu hasesu a phan fo angen bydd yn ofynnol i'r perchennog wneud gwaith i leihau'r peryglon a nodwyd i lefel dderbyniol.
  6. Os na fydd y perchennog yn cytuno i gwblhau'r gwaith o fewn amserlen resymol, mae'n bosibl wedyn y byddwn yn cymryd camau gorfodi o dan Ddeddf Tai 2004 i sicrhau bod y gwaith atgyweirio'n cael ei gwblhau. 

Rhowch wybod am gwŷn Tai

Tai