Gwerthu eich tŷ rhannu ecwiti

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/11/2018

Pan fyddwch chi eisiau symud o'ch tŷ rhannu ecwiti, gallwch werthu'r ganran o'r tŷ sydd yn eiddo i chi. Byddwn ni'n dal yn cadw ein cyfran ni o'r eiddo. Rydym ni'n gwneud beth y gallwn i'ch helpu drwy'r broses o werthu eich tŷ, ond  gallech wynebu'r un problemau ag unrhyw un arall sy'n gwerthu ei dŷ. Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gostau cyfreithiol a chostau gwerthu eich tŷ, gan gynnwys ffioedd gwerthwr tai.

Os ydych am werthu eich tŷ, y peth cyntaf y mae angen i chi ei wneud yw edrych ar eich cytundeb Adran 106. Mae hyn yn amlinellu pwy all brynu'ch tŷ, a'r dull o werthu y bydd angen i chi ei ddilyn.

Bydd angen i brisiwr RICS (Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) cymwys brisio eich tŷ. Gallwch chi ofyn i ni wneud y prisiad a byddwn ni'n codi tâl o £150 am hyn. Ni allwn ad-dalu hwn os ydych chi'n penderfynu peidio â gwerthu'ch tŷ. Bydd y prisiad yn ddilys am dri mis.

Mae'r prisiad yn nodi gwerth llawn eich tŷ ar y farchnad. Drwy hyn gallwn gyfrifo'r pris y gallwch werthu eich tŷ amdano. Rydym yn cyfrifo'r pris gan ddefnyddio fformiwla sy'n ystyried unrhyw gynnydd neu ostyngiad yng ngwerth yr eiddo ers iddo gael ei werthu'n gyntaf fel tŷ rhannu ecwiti (y pris fforddiadwy gwreiddiol).

Er enghraifft:
Os mai'r pris fforddiadwy gwreiddiol oedd £73,200 a'r prisiad oedd £120,000, roeddech chi wedi prynu 61% o'r eiddo yn wreiddiol. Pan fyddwch yn gwerthu eich tŷ, gallwch werthu eich 61% o'r eiddo. Fodd bynnag, efallai fod gwerth eich eiddo ar y farchnad wedi cynyddu neu wedi gostwng ers i chi ei brynu.

Ar ôl i chi wybod am faint y gallwch chi werthu eich canran chi o'r tŷ, ac wedi penderfynu eich bod yn dymuno bwrw ymlaen i werthu, mae angen i chi roi gwybod i ni cyn i chi hysbysebu'ch tŷ yn ffurfiol. Bydd angen arnoch Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer eich tŷ. Os yw eich tŷ yn llai na 10 mlwydd oed, efallai y bydd un ganddo eisoes. Os nad oes EPC ar gyfer eich tŷ, bydd angen i chi drefnu i aseswr ddarparu un. Gallwch weld os oes gan eich tŷ EPC gyfredol ar ein gwefan (dolen i wefan EPC).

Mae gennym gofrestr o bobl sydd am brynu tŷ rhannu ecwiti. Gallwn anfon e-bost at bobl ar y gofrestr i gael gwybod a fyddai diddordeb gan un ohonynt mewn prynu eich tŷ. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim a gallwn ni wneud hyn am ychydig wythnosau cyn i chi ddewis gwerthwr tai. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd am brynu:

  • gallu profi eu bod yn gallu cael morgais a bod ganddo/ganddi arian ar gyfer blaendal a ffioedd cyfreithiol;
  • bod â chyfanswm incwm aelwyd (cyn tynnu treth) sy'n llai na thraean gwerth yr eiddo ar y farchnad;
  • byw neu weithio’n amser llawn yn Sir Gaerfyrddin, neu fod â chysylltiad lleol hir-sefydledig â Sir Gaerfyrddin (megis teulu agos yn byw yn yr ardal); a
  • peidio â pherchen ar unrhyw dŷ arall neu fod â buddiant mewn tŷ arall, oni bai bod angen iddo/iddi symud oherwydd tor-perthynas.

Bydd rhaid i chi hysbysebu bod eich tŷ ar werth am dri mis. Os nad oes neb wedi cytuno i brynu'ch tŷ ar ôl y cyfnod hwn, mae gennym ni neu gymdeithas tai yr opsiwn o brynu'ch tŷ am y cyfnod nesaf (dau fis fel arfer). Yn ystod y cyfnod hwn dylech gadw eich eiddo ar y farchnad o hyd. Dylech edrych ar eich cytundeb Adran 106 gan y gallai'r amserlenni ynddo fod yn wahanol i'r rhai rydym wedi eu dyfynnu yma.

Os bydd unrhyw un am brynu eich eiddo, mae'n rhaid iddo/iddi fodloni'r meini prawf cymhwyso. Gallwn wirio hyn i chi os nad ydych yn sicr a yw eich prynwr yn gymwys.

Ar ôl y cyfnod a bennir yn eich cytundeb Adran 106, os gallwch ddangos tystiolaeth i ni eich bod wedi cadw'r eiddo ar y farchnad am y cyfnod llawn ond nad oes neb  wedi dod gerbron i'w brynu, gallwch ei werthu i unrhyw un ac ni fyddai'n rhaid iddo/iddi fodloni'r meini prawf cymhwyso. Fodd bynnag, bydd angen i unrhyw brynwr wybod bod yr eiddo yn dŷ fforddiadwy ac y bydd yn berchen ar gyfran ohono. Os bydd y prynwr am osod y tŷ, mae'n rhaid i'r rhent fod yn fforddiadwy ac mae'n rhaid i'r tŷ gael ei osod i unigolyn cymwys.

Gwneud cais am gopi A106 Hoffwn i werthu fy nghartref rhannu ecwiti

Tai