Perchnogion tŷ rhannu ecwiti
Pan fyddwch chi'n prynu tŷ rhannu ecwiti, byddwch yn llofnodi cytundeb Adran 106 sy'n nodi'r hyn y gallwch ei wneud a'r hyn na allwch ei wneud gyda'ch eiddo.
Os yw'r cytundeb yn caniatáu i chi addasu'ch tŷ bydd angen i chi gysylltu â ni er mwyn esbonio yn union yr hyn rydych chi'n bwriadu ei wneud.
Byddwn ond yn gwrthod eich cais os:
- byddai'n groes i'ch cytundeb Adran 106; neu
- byddai'n cynyddu gwerth yr eiddo gymaint fel na fyddai'n gartref fforddiadwy mwyach.
Byddech chi'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cael unrhyw ganiatâd sydd ei angen ar gyfer y gwaith (er enghraifft, caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth o ran rheoliadau adeiladu) cyn dechrau'r gwaith. Ni fyddwn yn cyfrannu unrhyw beth tuag at gost y gwelliannau.
Bydd eich cytundeb Adran 106 hefyd yn amlinellu pethau megis pwy sy'n gallu prynu'ch tŷ a'r broses sydd angen i chi ei defnyddio wrth werthu'ch tŷ.
Fel arfer bydd y cytundeb Adran 106 yn cael ei gadw gyda gweithredoedd eich tŷ ac efallai y bydd yn y pecyn a roddwyd i chi gan eich cyfreithiwr adeg prynu eich tŷ. Efallai bydd copi gan eich cyfreithiwr neu'ch darparwr morgais. Os na allwch ddod o hyd i'ch cytundeb, llenwch ein ffurflen ar-lein i ofyn am gopi. Gall gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i ni brosesu eich cais.
Bydd eich cytundeb Adran 106 fel arfer yn nodi'r hyn y mae'r swm y gallwch werthu eich tŷ amdano yn seiliedig arno.
Tai
Ein tenantiaid
- Cyfnewid eich cartref
- Rheoli Plâu
- Arolwg STAR
- Yswiriant Cynnwys Tenantiaid
- Cymryd Rhan
- Ffitrwydd i Fod yn Gartref
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Dod â'ch contract meddiannaeth (tenantiaeth cyngor) i ben
Talu eich rhent
Cais am waith atgyweirio
Cyngor a chymorth tai
Mwy ynghylch Tai