Tai newydd

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2018

Rhan o gynllun uchelgeisiol y Cyngor sef y Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy a fydd yn darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod o bum mlynedd, gan fuddsoddi dros £60m yn ein cymunedau.

Mae gwaith adeiladu ar fin dechrau cyn hir ar ddatblygiad tai fforddiadwy newydd sbon ym Mhen-bre. Mae datblygiad Cyngor Sir Caerfyrddin, yn y Garreglwyd, yn cynnwys 14 o dai pâr gan gynnwys 12 tŷ dwy ystafell wely a dau dŷ pedair ystafell wely.

More information