Cydlyniant Cymunedol
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/03/2025
Tîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys
Beth yw Cydlyniant Cymunedol?
Mae Cydlyniant cymunedol yn ymwneud â gwahanol grwpiau o bobl yn cyd-dynnu'n dda. Cymuned gydlynus yw un lle mae pobl o wahanol gefndiroedd yn rhannu perthnasoedd cadarnhaol, yn teimlo'n ddiogel yn eu cymdogaeth, ac yn parchu ei gilydd a rhannu'r un gwerthoedd.
Mae timau cydlyniant ledled Cymru yn gweithio gyda phartneriaid mewn Awdurdodau Lleol a sefydliadau lleol eraill i gyflwyno rhaglen waith i helpu i atal cymunedau rhag cael eu heffeithio gan droseddau casineb ac eithafiaeth.