Mae ychydig o gyllid ar gael drwy gyfrwng ECO4 ar gyfer systemau gwresogi sydd wedi torri.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi enwebu Cymru Gynnes i drin holl geisiadau ECO4 yn y sir. I weld a ydych yn gymwys i gael arian yna cysylltwch â chwmni Cymru Gynnes:

Gwefan Cymru Gynnes

E-bost: eco4@warmwales.org.uk

Rhif Ffôn: 01656 747622

Tŷ Llewellyn,
Parc Busnes Glan yr Harbwr
Port Talbot
SA13 1SB

Sylwer: rôl Cyngor Sir Caerfyrddin yn y cynllun yw cadarnhau bod aelwyd yn gymwys i dderbyn cyllid ECO4. Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd y gwaith gan fod y cytundeb rhwng yr aelwyd a'r gosodwr yn unig. 

 

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyllid ECO4 mae'n arferol gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol a phrawf adnabod ac ati. Bydd angen cael copïau o'r dogfennau hyn i gefnogi eich cais. 

Ni ddylai pwy bynnag sy'n cysylltu â chi mewn perthynas â chais ECO4 ofyn i chi am unrhyw arian neu daliad o gwbl. Yn ystod y cyswllt cyntaf mae'n rhaid i'r canfasiwr adael copi papur i chi gyda'i fanylion cyswllt a manylion cyswllt y sawl mae’n gweithio ar ei ran. 

Mae ECO4 Flex yn ddull tŷ cyfan le byddai angen i chi gael sawl mesur wedi'u gosod er mwyn bod yn gymwys am gymorth h.y. inswleiddio a gwresogi. O fis Mai 2023 dylai ECO4+ fod ar gael i gynorthwyo'r preswylwyr hynny sy'n dymuno cael mesurau sengl yn unig wedi'u gosod e.e. inswleiddio llofft, inswleiddio waliau ceudod, rheolaethau gwresogi ac ati.

Os ydych yn asiant ECO4 ac am gymryd rhan yn y cynllun ECO4 yn Sir Gaerfyrddin, yna anfonwch e-bost at ches@sirgar.gov.uk i gael rhagor o fanylion. 

Cyn ystyried unrhyw geisiadau, bydd angen i chi ddarparu llythyr gan gwmni cyfleustodau sy'n dangos y gallwch gael mynediad at gyllid ECO4, a fydd yn ei dro yn cadarnhau eich bod yn gweithredu'n uniongyrchol ar ran y cyflenwr ynni a bod gennych awdurdodiad i osod mesur(au) ECO Flex ar ei ran. Os ydych yn osodwr ac am gymryd rhan yn y cynllun, yna byddai angen i chi gysylltu ag unrhyw un o'r asiantau ECO fel y'u rhestrir ar wefan Cymru Gynnes o dan adran Sir Gaerfyrddin. 

Tai