Yswiriant Cynnwys Tenantiaid
Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2024
Yswiriant Cynnwys Tenantiaid
Beth yn union yw yswiriant cynnwys tenantiaid a pham mae ei angen ar denantiaid? Mae yswiriant cynnwys yno i helpu i ddiogelu eich eiddo os bydd unrhyw beth yn digwydd iddo. Waeth pa mor ofalus ydych chi, mae yna bob amser risg y gallai eich eiddo personol gael ei ddwyn, ei ddifrodi neu ei dorri.
I roi tawelwch meddwl i chi, mae yswiriant cynnwys yn sicrhau, os daw hi i'r gwaethaf a bod eich eiddo personol yn cael ei ddifrodi neu ei ddwyn, y byddwch wedi eich yswirio ac y bydd gennych y modd i adennill y gost.
Mae cynllun cynnwys tenantiaid ar gael o'r enw Just for You, Home Contents Insurance, sy'n cael ei weinyddu gan y Royal Sun Alliance.
I wneud cais am yr yswiriant naill ai ffoniwch 0345 6718172 neu anfonwch e-bost i: maecymunedynbwysig@sirgar.gov.uk a gofynnwch iddynt anfon ffurflen gais atoch