Polisi gosodiadau lleol

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2024

Mae Polisi Dyraniadau Sir Gaerfyrddin yn amlinellu sut yr ydym yn rhestru ymgeiswyr ar gyfer ein cartrefi sydd ar gael. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae gennym Bolisi Gosodiadau Lleol yn ei le. Mae'r defnydd o Bolisïau Gosodiadau Lleol yn gyfyngedig,ac ni ellir ei ddefnyddio ond lle mae gofynion gosod penodol.

Ar hyn o bryd mae polisïau Gosodiadau Lleol ledled Sir Gaerfyrddin yn cael eu hadolygu, felly nid yw pob un ohonynt yn cael eu cyhoeddi ar-lein, ond yr ydym yn gweithio tuag at hyn. Mae enghraifft o gyfyngiadau/gofynion ychwanegol Polisi Gosodiadau Lleol fel y ganlyn.

Polisi gosodiadau tai lleol Tŷ Stepni

Yn unol â'n polisi gosodiadau lleol, byddwn yn falch iawn o'ch ystyried ar gyfer Tŷ Stepni os ydych yn 18 oed neu'n hŷn ac yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • aelwydydd lle mae o leiaf un aelod mewn gwaith llawn amser neu ar incwm ymddeoliad
  • aelwydydd sy'n medru fforddio'r rhent heb fod angen hawlio budd-dal tai
  • pobl sy'n gweithio yng nghanol y dref
  • pobl sy'n dechrau busnes yn Llanelli

Gall eich aelwyd gynnwys:

  • pâr
  • 2 berson yn rhannu
  • pâr ac un person yn rhannu
  • Cwpwl a 1 plentyn
  • unigolyn sydd angen ystafell wely ychwanegol ar gyfer plentyn yn y teulu, p'un ai'n byw gyda chi'n barhaol neu beidio