Rhaglen Cefnogi Pobl
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2024
Rydym am eich helpu i beidio â cholli eich cartref. Byddwch yn gymwys i gael cymorth os ydych yn 16 oed neu'n hŷn ac os ydych yn:
- Dioddef cam-drin domestig;
- Digartref/mewn perygl o fod yn ddigartref, cysgu ar y stryd neu'n byw mewn llety anaddas;
- Cyn-droseddwr neu'n gadael y carchar;
- Rhywun ag anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau;
- Rhywun ag anhwylderau datblygiadol, er enghraifft, awtistiaeth;
- Rhywun â phroblemau yn ymwneud â chyffuriau a/neu alcohol;
- Rhywun â salwch cronig, gan gynnwys HIV ac AIDS;
- Teulu un rhiant ag anghenion cymorth;
- Rhywun ag anawsterau dysgu;
- Rhywun â phroblemau iechyd meddwl;
- Person ifanc ag anghenion cymorth
- Os oes angen cymorth arnoch i reoli eich cartref
Gallwn eich helpu chi i:
- Gwella eich sgiliau cymdeithasol a'ch sgiliau bywyd
- Teimlo ac aros yn ddiogel yn y cartref;
- Rheoli eich dyledion a'ch arian, megis ôl-ddyledion rhent, hawlio budd-daliadau, a chyllidebu ar incwm isel;
- Symud neu addasu eich cartref;
- Cael mynediad i gyflogaeth, addysg, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli, cymdeithasol a hamdden;
- Meithrin sgiliau byw'n annibynnol megis coginio, glanhau a rheoli eich cartref; a llawer mwy.
- Atal pobl rhag mynd yn ddigartref a helpu pobl ddigartref i gael llety a'i gadw.
- Cael mynediad i wasanaethau eraill megis iechyd, gofal cymdeithasol ac asiantaethau eraill
Sut i gael cymorth
Ffoniwch 0300 333 2222. Bydd ein tîm yn eich helpu i gael y cymorth cywir.
Tai
Mwy ynghylch Tai