Rhoi gwybod am eiddo gwag
Er mwyn mynd i'r afael â materion cymdeithasol, ac fel rhan o'r gwaith o ddiwallu'r galw am dai yn y sir, rydym yn dymuno gweithio gyda pherchnogion eiddo gwag er mwyn gallu gwneud defnydd o'r adeiladau hyn unwaith eto. Gallai eiddo gwag fod yn gartrefi i bobl y mae eu hangen arnynt.
Mae eiddo gwag yn destun pryder inni oherwydd gallant:
- Ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys troseddu, fandaliaeth a llosgi bwriadol, gan gynyddu ofn troseddau ymhlith cymdogion am droseddau o ganlyniad.
- Anharddu'r ardal a chreu problemau amgylcheddol
- Gostwng gwerth eiddo cyfagos
- Atal buddsoddiad pellach yn yr ardal, gan arwain at ddirywiad yr ardal
- Costio swm mawr o arian i'r perchennog (y dreth gyngor, colli incwm rhent a dirywiad yr eiddo). Amcangyfrifir y gall gostio cymaint â £9,000 - £11,000 y flwyddyn i'r perchennog.
Mae gennym bwerau gorfodi y mae'n bosibl y byddwn yn eu defnyddio os yw'r eiddo gwag yn achosi risg neu bryder sylweddol. Rydym bob amser yn gwneud ein gorau glas i drafod cyflawni'r gwaith o wella eiddo gwag gyda pherchnogion gan ein bod yn credu mai'r ateb gorau yw sicrhau bod y tai gwag hyn, y mae mawr eu hangen, yn cael eu defnyddio eto.
Fodd bynnag, os yw ein trafodaethau'n aflwyddiannus, mae'n bosibl y byddwn yn ystyried cymryd camau gorfodi. Bydd hyn yn amrywio gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol a chyflwr yr eiddo. Ymhlith y camau gweithredu y gallwn eu cymryd y mae:
Os yw eiddo gwag mewn cyflwr gwael a bod angen ei atgyweirio, mae'n bosibl y bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried y camau gorfodi canlynol:
- Hysbysiad Gwella - Gwaith gwella i fynd i'r afael â diffygion a pheryglon.
- Camau Unioni Brys - Mynd i'r afael â risg uniongyrchol o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch unrhyw un o ddeiliaid yr eiddo neu unrhyw adeilad preswyl arall.
- Adeiladau peryglus neu adfeiliedig - Pan fo adeilad neu strwythur mewn cyflwr mor wael fel ei fod yn beryglus.
- Adeilad peryglus - (Gwaith Brys) - Adeilad peryglus lle mae angen gweithredu ar unwaith.
- Niwsans statudol - Mynd i'r afael ag unrhyw eiddo sydd mewn cyflwr mor wael, fel y gallai fod yn niweidiol i iechyd neu'n niwsans.
Os yw adeilad neu ardal yn anniben neu mewn cyflwr gwael, gallai hyn cael effaith negyddol ar y cymdogion neu ymddangosiad yr ardal gyfagos. Mae gennym y pwerau cyfreithiol i reoli taclusrwydd a golwg adeiladau a'r tir yn yr ardaloedd cyfagos, ond byddwn bob amser yn ceisio gweithio gyda pherchennog yr eiddo neu'r tir er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.
Os nad ydym yn gallu datrys y mater, mae'n bosibl y gallwn gymryd camau gorfodi drwy un o'r canlynol:
- Gorfodi'r gwaith o glirio adeiladau neu dir, sy'n cael effaith niweidiol ar yr ardal.
- Mynd i'r afael ag adeilad neu strwythur sy'n adfeiliedig neu mewn cyflwr gwael, ac sy'n cael effaith andwyol ar amwynderau'r gymdogaeth.
- Cael gwared ar lygod neu sicrhau nad oes unrhyw lygod ar y tir neu yn yr adeilad.
- Mynd i'r afael ag adeiladau heb eu meddiannu neu lle mae'r deiliad yn absennol dros dro a lle nad yw wedi'i ddiogelu rhag mynediad anawdurdodedig neu lle mae'n debygol o beri perygl i iechyd y cyhoedd.
Os oes angen inni berchenogi adeilad, mae gennym y pwerau cyfreithlon i wneud hynny drwy;
- Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag - Gallwn gymryd cyfrifoldeb dros wella'r eiddo, ei osod ac adennill unrhyw gostau.
- Prynu Gorfodol - Y ddarpariaeth ar gyfer caffael tai er mwyn gwella tai a chaffael tir a fydd yn hwyluso'r gwaith o ddatblygu, ailddatblygu neu wella'r eiddo.
- Gweithdrefn Gwerthu Gorfodol - Nid ffordd o ddelio ag eiddo sydd â phroblemau fel y cyfryw yw hon, ond gweithdrefn i ddelio ag adennill unrhyw ôl ddyledion yn dilyn camau sydd wedi creu arwystl ariannol yn erbyn eiddo.
Os hoffech drafod unrhyw eiddo gwag, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy ffonio 01554 889389.
Tai
Ein tenantiaid
- Cyfnewid eich cartref
- Rheoli Plâu
- Arolwg STAR
- Yswiriant Cynnwys Tenantiaid
- Cymryd Rhan
- Ffitrwydd i Fod yn Gartref
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Dod â'ch contract meddiannaeth (tenantiaeth cyngor) i ben
Talu eich rhent
Cais am waith atgyweirio
Cyngor a chymorth tai
Mwy ynghylch Tai