Diogelwch defnyddio canhwyllau

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2024

Diogelwch defnyddio canhwyllau

 

Mae canhwyllau'n nodi achlysuron arbennig ac yn creu awyrgylch arbennig. Maen nhw hefyd yn dod â thân i mewn i'ch cartref. Felly eu trin yn ofalus.

Os ydych chi'n mynd i ddefnyddio cannwyll neu losgwr olew, defnyddiwch yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Dyma rai awgrymiadau:

Gwnewch 
  • Gosodwch ganhwyllau/losgwyr olew ar arwyneb sefydlog sy'n gallu gwrthsefyll gwres. Gall canhwyllau te a chanhwyllau tebyg doddi arwynebau plastig fel topiau teledu a thybiau ymolchi. Rhaid eu cadw i ffwrdd o lenni a deunyddiau a'u gosod ar arwyneb anfflamadwy fel plât neu deilsen - dylid defnyddio daliwr cannwyll/ arogldarth priodol lle bynnag y bydd hynny'n bosibl.
  • Rhowch ganhwyllau persawrus mewn daliwr sy'n gallu gwrthsefyll gwres. Mae canhwyllau persawrus wedi'u dylunio i doddi wrth gael eu twymo er mwyn rhyddhau cymaint o arogl â phosibl.
  • Llosgwch ganhwyllau mewn ystafell wedi'i hawyru'n dda, i ffwrdd o ddrafftiau, tyllau aer neu gerrynt aer. Bydd hyn yn gymorth i osgoi llosgi cyflym neu anwastad, huddygl, a diferu.
  • Cadwch ganhwyllau i ffwrdd o ddrafftiau a phethau a all fynd ar dân yn hawdd fel celfi neu lenni.
  • Os byddwch yn mynd allan, diffoddwch y gannwyll. Peidiwch byth â gadael canhwyllau'n llosgi heb neb yn cadw golwg arnynt. Diffoddwch ganhwyllau sy'n llosgi pan fyddwch yn gadael yr ystafell, a gofalwch eu bod wedi'u diffodd yn llwyr unwaith y byddwch wedi gorffen â nhw.
  • Cadwch ganhwyllau allan o gyrraedd plant a all fod am chwarae gyda nhw ac allan o gyrraedd anifeiliaid a all eu bwrw drosodd.
  • Defnyddiwch ddiffoddwr canhwyllau pwrpasol neu lwy i ddiffodd canhwyllau. Mae'r rhain yn ddulliau mwy diogel na chwythu, sy'n gallu achosi i wreichion a chwyr poeth dasgu.
  • Gofalwch fod pawb yn eich cartref yn gwybod beth i'w wneud os bydd tân - cofiwch ymarfer eich llwybr dianc.
  • Gofalwch fod larymau mwg wedi'u gosod ac yn gweithio ym mhob rhan o'ch cartref a'ch bod yn eu profi'n rheolaidd.
Peidiwch â
  • Peidiwch â llosgi nifer o ganhwyllau yn agos at ei gilydd, gan y gallai hynny achosi i'r fflam dasgu. Gadewch o leiaf 10cm (4") o fwlch rhwng dwy gannwyll sy'n llosgi.
  • Peidiwch â gadael i ddim gwympo i mewn i'r cwyr poeth. Gall darnau o fatsis wedi torri, ac ati, weithio fel ail wic a chynyddu uchder y fflam a'i thymheredd yn sylweddol.
  • Peidiwch byth â chynnau canhwyllau, llosgwyr na sigaréts pan fyddwch wedi blino neu'n teimlo'n gysglyd.
  • Peidiwch â symud canhwyllau ar ôl eu cynnau.
  • Peidiwch â phwyso dros gannwyll - gallech roi eich dillad ar dân.
  • Peidiwch byth â gadael i losgwr olew ferwi'n sych. Yn dibynnu ar y math o losgwr, gallai dorri - neu fynd ar dân mewn rhai achosion.
  • Peidiwch byth â gadael canhwyllau wedi'u cynnau heb oruchwyliaeth. Rhowch ganhwyllau cynn allan pan fyddwch chi'n gadael yr ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw allan yn llwyr ar ôl i chi orffen gyda nhw. Os ydych chi'n mynd allan, rhowch hi allan. Diogelwch Canhwyllau - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (tancgc.gov.uk)