Benthyciad troi tai’n gartrefi
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2024
Mae'r menter Troi Tai’n Gartrefi yn cynnig benthyciadau er mwyn dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd fel cartrefi preswyl.
- Gall benthyciadau dim ond fod ar gael ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy.
- Ystyrir ceisiadau am fenthyciadau i drosi eiddo masnachol gwag yn llety preswyl. Ni fyddwn yn ystyried cais am fenthyciad ond os yw'r caniatâd cynllunio perthnasol wedi cael ei roi.
- Uchafswm y benthyciad y gallwch wneud cais amdano yw £25,000 yr eiddo neu uned, hyd at uchafswm o £150,000 fesul ymgeisydd (6 uned).
- Ni all unrhyw fenthyciad a gynigir, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw forgais sy'n bodoli eisoes, fod yn fwy na 80% o werth yr eiddo ar hyn o bryd. Felly, os oes gennych forgais sy'n bodoli eisoes o £65,000 ar eiddo sy’n werth £100,000 ar y farchnad bresennol, yna uchafswm y benthyciad y gellir ei gymeradwyo yw £15,000.
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl defnyddio eiddo arall yn warant ar gyfer y benthyciad.
Gall y cyllid gael ei ddefnyddio ar gyfer:
- benthyciadau i ddychwelyd eiddo i ddefnydd i'w werthu – byddai gan y benthyciadau gyfnod ad-dalu o uchafswm o 2 flynedd
- benthyciadau i ddychwelyd eiddo i ddefnydd i'w rentu – byddai gan y benthyciadau gyfnod ad-dalu o uchafswm o 3-5 blynedd
Bydd yr holl fenthyciadau a gymeradwyir yn ddarostyngedig i nifer o amodau i sicrhau bod arian y gronfa benthyciadau gynorthwyo cynlluniau eiddo gwag pellach.