Gwaith Cynnal a Chadw Cyffredinol mewn Gerddi

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2024

Rheoli Chwyn – defnyddiwch fforch arddio, strimiwr/torrwr prysgwydd neu hof. Hefyd gellir trin chwyn â chwynladdwr cemegol i'w hatal rhag tyfu'n ôl. Efallai y bydd angen rhoi sawl triniaeth i rai chwyn ymledol. Wrth ddefnyddio cemegau, dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr yn ofalus bob amser. Rhwng y gwanwyn a'r hydref pan fyddan nhw yn eu dail, ac ar ddiwrnod sych, yw'r amser gorau i'w trin.

Defnyddiwch y ddolen hon i'ch helpu i adnabod chwyn cyffredin yr ardd.

www.rhs.org.uk/advice/common-weeds

Tocio cloddiau – defnyddiwch offer torri clawdd i gadw'r clawdd ar uchder sy'n hawdd ichi ei reoli. Bydd y rhan fwyaf o gloddiau'n ymdopi â llawer o docio a bydd angen eu tocio'n rheolaidd yn ystod y tymor tyfu. (Y gwanwyn tan yr hydref)

Defnyddiwch y ddolen hon i gael rhagor o gyngor ynghylch tocio cloddiau
www.rhs.org.uk/advice/profile?pid=352

Gwaith tocio cyffredinol ar goed a llwyni - defnyddiwch dociwr, gwellau gardd, neu lif law. Ychydig iawn o waith cynnal a chadw sydd ei angen ar lawer o goed/llwyni yn yr ardd. Tociwch y canghennau isel dros lwybrau yn yr ardd a thociwch nhw er mwyn iddynt dyfu i ffwrdd oddi wrth adeilad neu strwythurau i gael digon o le. Ar gyfer llwyni, yn gyffredinol, tociwch ar ôl i'r planhigyn flodeuo.

Defnyddiwch y dolenni hyn i gael rhagor o gyngor ynghylch tocio coed a llwyni
www.rhs.org.uk/advice/profile?pid=233
www.rhs.org.uk/advice
www.trees.org.uk/Help-Advice/Help-for-Tree-Owners/Guide-to-Tree-Pruning

Cynnal a Chadw'r Lawnt – mae angen torri'r gwair yn rheolaidd yn ystod y tymor tyfu

  • Dylid codi uchder y llafn ar gyfer y mis cyntaf (Mawrth – Mai)
  • Gellir gostwng uchder y llafn (Mai – Awst)
  • Codwch yr uchder unwaith eto ar gyfer gweddill y tymor tyfu
  • Torrwch y borfa'n llai aml yn ystod amodau sych iawn (sychder) pan nad yw'r glaswellt yn tyfu llawer

Gwaredu iorwg – defnyddiwch dociwr neu lif law. Er nad yw bob amser yn broblem, gall iorwg fod yn niwsans yn y lleoliad anghywir. Torrwch iorwg ar y gwaelod i'w atal rhag tyfu i mewn i gorunau coed neu yn erbyn waliau eiddo. Gall iorwg symud teils y to ac achosi dŵr i fynd i mewn! Gellir trin unrhyw dyfiant newydd o'r bôn â chwynladdwr.

Coed bach (coed bach sy'n hunan-hadu) – Yr adeg orau i fynd i'r afael â'r rhain yw yn ystod camau cynnar y tyfiant, pan fyddant yn ddigon bach i gael eu tocio/gwaredu. Defnyddiwch dociwr, llif law, neu raw arddio. Nid yw pob coeden yn tyfu mewn mannau dymunol. Mae rhai rhywogaethau o goed yn hynod effeithlon o ran creu a dosbarthu hadau. Gall yr hadau hyn gael eu cario gan y gwynt, adar neu anifeiliaid. Mae coed ynn a sycamorwydd yn enghreifftiau da o goed sydd â'r potensial i greu nifer o goed eraill. Rydym yn galw'r coed hyn yn rhai sy'n hunan-hadu. Dylai coed sy'n hunan-hadu gael eu codi gennych os ydynt yn agos at strwythurau neu adeiladau mewn gardd neu ble bynnag nad ydych am iddynt fod. Mae potensial gan bob coeden ifanc i dyfu'n goeden aeddfed.