Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2024
Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn derm eang. Mae'n cynnwys ymddygiad sydd wedi achosi aflonyddwch, braw neu drallod i chi neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i chi.
O dan Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, mae 'ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall' yn un o delerau sylfaenol eich contract meddiannaeth.
Ystyrir bod unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig, gennych chi, y rhai sy'n byw gyda chi ac sy'n ymweld â chi, yn torri eich contract ac ni fydd yn cael ei oddef.
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig gynnwys :
- niwsans sŵn
- ymddygiad meddw
- anghydfodau cymdogion
- cyffuriau, camddefnyddio sylweddau, delio neu dyfu cyffuriau
- cam-drin geiriol
- ymddygiad bygythiol
- aflonyddwch a bygythiadau
- cam-drin domestig (gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol)
- difrodi eiddo
- anifeiliaid anwes a niwsans anifeiliaid
- gweithgareddau anghyfreithlon
Mae rhai pethau'n cael eu hystyried fel ymddygiad gwrthgymdeithasol os ydyn nhw'n digwydd yn ystod oriau anghymdeithasol.
Er enghraifft, nid yw sŵn hwfer yn wrthgymdeithasol yn ystod y dydd, ond byddai'n cael ei ystyried fel ymddygiad gwrthgymdeithasol os ydych chi'n ei glywed am 2am.
Nid yw sŵn neu ymddygiad sy'n rhan o fywyd bob dydd yn cael ei ystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er enghraifft:
- plant yn chwarae yn y stryd
- parcio gwael
- plant yn crio
- sŵn domestig rhesymol – synau byw o ddydd i ddydd
- grwpiau o bobl nad ydyn nhw'n achosi aflonyddwch
- DIY yn ystod oriau rhesymol
- anoddefgarwch i faterion ffordd o fyw arferol – gwrthdaro ffordd o fyw / personoliaethau / diwylliannau
- anifeiliaid anwes yn crwydro ar draws gerddi
- digwyddiadau unwaith yn unig, megis parti
- anghydfodau 1 i 1 neu anghydfodau personol lle nad oes unrhyw achosion o dorri contract
- problemau sy'n codi o wrthdaro ffordd o fyw, megis gwaith sifft
Trafodwch yr ymddygiad
Cyn i chi roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch geisio datrys y sefyllfa eich hun.
Gan amlaf, mae'n syniad da ceisio siarad â'r person neu'r bobl sy'n achosi'r broblem. Mae hyn fel arfer yn datrys y broblem yn gyflym ac mae'n ateb gwell yn y tymor hir.
Os nad ydych chi'n gallu datrys y sefyllfa fel hyn, mae opsiynau eraill ar gael i chi.
Cysylltwch â'r cyngor
Os ydych yn ddeiliad contract (tenant) Cyngor Sir Caerfyrddin neu'n rhoi gwybod am broblem gyda thenant Cyngor Sir Caerfyrddin, gallwch gysylltu â ni a rhoi gwybod i ni am ymddygiad gwrthgymdeithasol CEContactCentre@sirgar.gov.uk
Wrth i chi roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae'n ddefnyddiol os gallwch chi esbonio:
- yr hyn sy'n cael ei wneud
- pwy sy'n ei wneud
- pan ddigwyddodd yr ymddygiad (dyddiadau ac amseroedd)
- pa mor aml mae wedi digwydd
Cysylltwch â'ch landlord
Cysylltwch â'ch landlord neu'r heddlu os nad oes neb sy'n ymwneud â'r sefyllfa yn denant cyngor.
Cysylltwch â'r heddlu
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys ganllawiau ar yr opsiynau ar ei wefan.
Gallwch hefyd roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol i'r heddlu trwy ffonio 101.
Os yw pobl mewn perygl, ffoniwch 999.
Byddwn yn asesu lefel y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Efallai y bydd ein canolfan gyswllt yn rhoi cyngor i chi ar sut i ddelio â'r sefyllfa.
Efallai y byddwn yn neilltuo swyddog tai i chi. Bydd y swyddog yn:
- cysylltu â chi dros y ffôn a thrwy e-bost os nad yw'r ffôn yn gweithio
- gwneud apwyntiad gyda chi
- llunio cynllun gweithredu
- rhoi'r cynllun gweithredu ar waith
- cytuno pa mor aml y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi
- cysylltu â chi cyn cytuno i gau eich achos
Bydd y math o ddatrysiad yn wahanol yn dibynnu ar beth yw'r ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Beth allai ddigwydd i ddatrys y sefyllfa:
- Cyfryngu
- Rhybuddion – cyhoeddir llythyrau mewn rhai achosion os oes tystiolaeth o dorri telerau contract meddiannaeth (cytundeb tenantiaeth)
- Camau cyfreithiol – mewn rhai achosion prin, fel dewis olaf i ddelio ag ymddygiad troseddol a/neu dorri contract meddiannaeth barhaus
- Gwaharddebau
- Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned / Hysbysiadau Cosb Benodedig
Mae cyfryngu yn helpu'r person y tu ôl i'r ymddygiad gwrthgymdeithasol i ddeall eich teimladau. Bydd cyfryngwr annibynnol yn trefnu i chi gyfarfod. Byddant yn helpu i lywio eich trafodaeth i ddod o hyd i ffordd ymlaen. Mae'r rhan fwyaf o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu datrys drwy gyfryngu.
Tai
Mwy ynghylch Tai