Parod i Gyllidebu a Bancio
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2024
Bydd cyllidebu yn eich helpu i wneud y gorau o'ch arian.
Ceisiwch wneud cynllun gwariant/cyllideb fel isod. Yn ddelfrydol, bydd yn dangos eich holl gostau yn erbyn eich incwm a'r hyn sydd gennych ar ôl i'w wario
Gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu eich biliau. Bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu chi i arbed arian:
- Chwilio am y fargen orau a defnyddio gwefannau cymharu.
- Gall clybiau tanwydd fod yn ddewis arall i brynu'n annibynnol.
- Siarad ag arbenigwr ynni Cyngor ar Bopeth.
- Cyflwyno cais am ostyngiad y Dreth Gyngor.
- Gofyn i Dŵr Cymru am gyfraddau dŵr is. Gallai hyn haneru eich biliau dŵr os ydych yn hawlio budd-daliadau, os oes gennych deulu mawr neu os oes gennych gyflyrau meddygol.