Dod â'ch contract meddiannaeth (tenantiaeth cyngor) i ben

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2024

 

Os hoffech ein hysbysu ynghylch dod â'ch contract (tenantiaeth) i ben, rhaid i chi wneud hynny'n ysgrifenedig o leiaf 4 wythnos ymlaen llaw. Dylai dyddiad olaf eich tenantiaeth fod yn ddydd Sul, lle bynnag y bo modd.

Rhaid i chi adael yr eiddo mewn cyflwr da, glân, a chael gwared ar yr holl eiddo personol a dychwelyd yr allweddi i ni cyn i'r 4 wythnos hyn fynd heibio.

Os byddwch yn gadael unrhyw eiddo personol yn yr eiddo, fe rown 28 diwrnod i chi eu casglu, fel arall, byddwn yn eu gwaredu fel y gwelwn yn dda.

Codir tâl sy'n cyfateb i'r rhent wythnosol os bydd angen i ni gadw eich eiddo personol yn yr eiddo wedi i'ch contract ddod i ben.

Y ffordd gyflymaf yw cysylltu â'n Tîm Cartrefi Newydd drwy anfon e-bost: VoidsTeam@sirgar.gov.uk.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rhowch wybod:

  • y dyddiad rydych chi'n symud allan (cofiwch fod angen i ni gael gwybod 4 wythnos ymlaen llaw)
  • i ble rydych chi'n symud
  • eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost, er mwyn i ni allu cysylltu â chi

NEU

llenwch y ffurflen Hysbysu'r Landlord am Ddod â'r Contract i ben:

Hysbysu'r Landlord am Ddod â'r Contract i ben

Gallwch ollwng yr allweddi a'r hysbysiadau yn ein canolfannau HWB:

  • 9:00am i 5.00pm, dydd Llun i ddydd Iau
  • 9:00am i 4:30pm ar ddydd Gwener

Os nad ydych yn mynd i fod yn gadael eich eiddo ar y dyddiad wnaethoch chi ddweud wrthym, cysylltwch â'r tîm Cartrefi Newydd cyn gynted ag y gallwch.

Os ydych am newid eich cyfnod hysbysu, dylech ddweud wrthym pam na fyddwch yn gadael ar y diwrnod y cytunwyd arno a pha ddyddiad y byddwch yn symud yn awr.

Gallwch ganslo eich hysbysiad ac aros yn eich eiddo, ond rhowch wybod i ni.

Sylwer nad oes hawl gennych i gael dwy denantiaeth yn rhedeg ar yr un pryd.

Mae gennym ganllawiau cyffredinol ar beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw

Pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth dywedwch wrthym unwaith y llywodraeth, dywedwch wrthynt eich bod am roi gwybod i'r Gwasanaeth Tai a byddwn ni'n cael yr hysbysiad am y farwolaeth.

O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, bydd y contract yn dod i ben 1 mis ar ôl y farwolaeth neu'n gynt os byddwch yn rhoi gwybod i ni.

Efallai y gallwn roi cyngor i chi ar glirio'r eiddo.

Mae gennym hefyd ganllawiau ar roi eitemau nad ydych eu hangen, a gwasanaeth casglu gwastraff swmpus. Mae'n bosib y bydd y rhain yn ddefnyddiol i chi.

Os byddwch yn torri telerau eich contract meddiannaeth, gallwn ddod â'ch tenantiaeth i ben drwy gael gorchymyn meddiant gan y Llys Sirol. Byddwn yn rhoi o leiaf 1 mis o rybudd ysgrifenedig i chi o'n bwriad i wneud cais am Orchymyn Adennill Meddiant.

Os ydym am feddiannu oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig, gallwn ddechrau achos llys yn syth ar ôl eich hysbysu.

Gallwn ddod â'ch Contract (tenantiaeth) i ben heb orchymyn llys os ydym yn credu eich bod wedi gadael eich eiddo'n ddi-rybudd. Nid oes angen i ni fynd i'r llys i wneud hyn.

Gall contract ddod i ben unrhyw bryd os ydym wedi cytuno i hynny gyda chi. Daw'r contract i ben yn swyddogol pan fyddwch chi'n ildio meddiant o'r eiddo, yn unol â'r cytundeb rydym wedi'i wneud gyda chi.

 

Ble gallwch roi eich eitemau diangen

Os oes gennych eitemau diangen yn eich tŷ sydd o ansawdd da, efallai y gallwch eu rhoi i'w hailddefnyddio. Rhowch wybod i'r tîm Cartrefi Newydd a byddant yn dweud wrthych a oes modd ailddefnyddio'r eitemau.
Eto

Pethau eraill y gallwch chi eu gwneud â'ch eitemau diangen

Mae modd gwneud sawl peth â'ch eitemau diangen heb eu taflu yn y bin.
Gallwch eu cynnig i'ch cymdogion neu eu hysbysebu ar Facebook. Gallwch weld a yw eich siopau elusen ar y stryd fawr leol yn derbyn rhoddion.

Alla i ddim rhoi fy eitem, sut gallaf gael gwared arni?

Mae gennym wasanaeth casglu gwastraff swmpus.

Trefnu casgliad gwastraff swmpus

Sut i drefnu casgliad gwastraff swmpus
Gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus ar-lein drwy gofrestru ar eich cyfrif Fy Hwb. Os nad oes gyda chi gyfrif yn barod, bydd angen i chi greu un.
Creu cyfrif
Gallwch hefyd drefnu drwy ein ffonio ar 01267 234567. Dim ond drwy garden ddebyd neu gredyd gallwch chi dalu.

Ble i roi eich eitemau ar y diwrnod casglu

Rhowch eich holl eitemau gyda'i gilydd i'w casglu o flaen eich eiddo. Gadewch nhw mor agos â phosibl i ymyl y palmant.
Lle bo'n bosib, peidiwch â rhoi eich eitemau ar y palmant. Rydym yn deall y gall fod adegau lle mae angen gwneud hynny, er enghraifft, os ydych yn byw mewn eiddo teras lle rydych yn camu'n syth i'r palmant, heb ardd flaen.
Rhaid i chi adael yr eitemau'n ddiogel a pheidio â rhwystro unrhyw fynediad i gerddwyr. Gwnewch yn siŵr y gall ein tîm casglu weld yr holl eitemau yn hawdd.
Rhaid i chi adael eich holl eitemau i'w casglu mewn pentwr taclus. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i'n tîm casglu eu hadnabod a'u codi.

Y ffurflen hon
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r ffurflen hon wrth gyflwyno hysbysiad i ddod â'ch contract meddiannaeth i ben, ond rydym yn eich annog i wneud hynny.

Dyddiad terfynu
Wrth gyflwyno hysbysiad i ddod â'r contract i ben, rhaid i chi nodi'r dyddiad pan fyddwch yn ildio meddiant o'r annedd. Ni chaiff y dyddiad a bennir gennych mewn hysbysiad fod yn llai na phedair wythnos ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r landlord.

Os na fyddwch yn ildio meddiant o'r annedd ar y dyddiad a bennwyd gennych, gall y landlord wneud hawliad meddiant yn eich erbyn i ddod â'ch contract meddiannaeth i ben.

Os ydych yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad hwn, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad.

Os ydych yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad hwn, daw’r contract hwn i ben —
(a) ar y diwrnod mae deiliad y contract yn ildio meddiant o'r annedd, neu
(b) os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Tynnu'r hysbysiad hwn yn ôl
Bydd yr hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben —
(a) Byddwch yn ein hysbysu (yn ysgrifenedig) eich bod am ei dynnu'n ôl; ac
(b) Nad ydym yn gwrthwynebu (yn ysgrifenedig) i’r tynnu’n ôl gennych, cyn diwedd cyfnod rhesymol.

Cyd-ddeiliaid Contract
Os nad yw'r Hysbysiad hwn wedi'i lofnodi gan BOB cyd-ddeiliad contract, ni fydd yn dod â'r contract meddiannaeth i ben. Fodd bynnag, o dan y Ddeddf bydd yn cael ei drin fel "hysbysiad tynnu'n ôl" gan y deiliad/deiliaid contract sydd wedi ei lofnodi.