Cyfnewid eich cartref

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/02/2023

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfnewid eich cartref â thenant arall y Cyngor, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i denant addas. Mae'n rhaid i chi fod yn gymwys i wneud cais. Efallai na fyddwch yn gallu i gyfnewid eich cartref os:

  • Ydych wedi bod yn denant am lai na 12 mis neu os oes gennych denantiaeth brawf
  • Ydych mewn ôl-ddyledion o ran eich rhent
  • Yw camau gweithredu wedi'u dechrau yn erbyn eich tenantiaeth yn sgil torri amodau tenantiaeth eraill

Os nad ydych yn gymwys, gallwn roi caniatâd amodol, h.y. i fynd ymlaen pan fydd unrhyw ôl-ddyledion rhent wedi'u clirio. Os hoffech wneud cais, ffoniwch ni ar 01554 899311 a gallwn siarad â chi am eich amgylchiadau. Byddwn yn gofyn am rai manylion amdanoch chi a'ch cartref ac yn cael gwybod pam rydych am gyfnewid cartref.

Homeswapper

Os ydych wedi'ch cofrestru gyda Homeswapper, rydym bellach wedi wedi tynnu'n ôl ein haelodaeth. Mae hyn yn golygu bod eich aelodaeth am ddim wedi dod i ben. Gallwch barhau i ddefnyddio’r wefan, ond bydd angen i chi dalu ffi danysgrifio i barhau i ddefnyddio gwasanaeth Homeswapper. Nid oes angen i chi ailgofrestru, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw diweddaru'ch tanysgrifiad.

Tai