Marwolaeth ac Olyniaeth
Diweddarwyd y dudalen ar: 24/04/2024
Gall rhywun sy'n byw gyda deiliad contract (tenant) yn yr eiddo, gael hawl i barhau â'r contract os bydd deiliad y contract yn marw.
Pan fydd unig ddeiliad contract yn marw
Os bydd unig ddeiliad contract yn marw a'i fod yn byw ar ei ben ei hun, daw'r contract i ben fis ar ôl y farwolaeth, neu'n gynharach, pan fyddwn yn cael gwybod am y farwolaeth gan rywun a awdurdodwyd i'n hysbysu ni, e.e. cynrychiolydd ar ran y teulu.
Olynu i gontract meddiannaeth pan fydd deiliad contract yn marw
Os oeddech yn byw gyda deiliad contract (tenant) fel eich unig gartref a'ch prif gartref pan fu farw, neu am o leiaf 12 mis cyn iddynt farw, efallai y bydd gennych yr hawl i gymryd drosodd y contract meddiannaeth (tenantiaeth). Gelwir hyn yn "olyniaeth".
Mae deddfau ar gael sy'n nodi pwy sy'n gallu olynu. Er enghraifft, mae eich hawl i olynu i gontract meddiannaeth (tenantiaeth) yn dibynnu ar eich perthynas â'r person a fu farw, a pha fath o gontract meddiannaeth oedd ganddynt.
Pwy all olynu?
Mae dau fath o 'olynydd' - olynydd â blaenoriaeth ac olynydd wrth gefn. Y math o bobl yn y categorïau hyn fydd aelodau o'r teulu a gofalwyr neu bobl sy'n briod neu'n bartner sifil i'r ymadawedig (neu'n byw felly).
Gallai person fod yn gymwys i gymryd drosodd contract meddiannaeth ar farwolaeth deiliad y contract fel olynydd â blaenoriaeth neu olynydd wrth gefn (er enghraifft priod). Felly, yn ymarferol efallai y bydd, dros amser, ddwy olyniaeth i gontract meddiannaeth (ond dim mwy).
Os ydych yn credu bod gennych hawl i olynu i gontract meddiannaeth, yna cwblhewch y ffurflen Cais am Wybodaeth. Byddwn wedyn yn ymchwilio i'ch cais.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad cyn gynted â phosibl.