Yma i Helpu
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2024
Os ydych chi'n cael trafferth ymdopi yn eich cartref newydd, mae'n bwysig gofyn am help cyn gynted ag y bydd arwydd o unrhyw broblemau.
Os ydych newydd symud i mewn, gallwch gysylltu â'r Tîm Cyn-llety drwy ffonio 01267 228680.
Wedyn, dylech gysylltu â'ch Swyddog Tai neu'ch landlord oherwydd gallant eich helpu a'ch cefnogi i ddatrys materion yn ymwneud â thenantiaeth.
Byddwch yn cael manylion cyswllt eich Swyddog Tai, felly byddwch yn gallu cysylltu ag ef/hi dros y ffôn, trwy e-bost, trwy neges destun, trwy anfon llythyr a thrwy ofyn iddynt ymweld â chi yn eich cartref neu mewn swyddfa.
Bydd eich contract yn cynnwys manylion cyswllt eich landlord.