Cam-drin Domestig

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/05/2024

Ystyr cam-drin domestig yw bod eich partner neu unrhyw aelod arall o’ch teulu yn eich cam-drin yn seicolegol, yn emosiynol, yn gorfforol, yn rhywiol neu’n ariannol. Gall y cam-drin fod yn un digwyddiad neu’n gam-drin sy’n digwydd dro ar ôl tro ond fel rheol, patrwm ymddygiad ydyw. Os ydych yn teimlo bod eich partner yn fygythiol tuag atoch neu’n codi ofn arnoch i’r fath raddau nes eich bod yn teimlo bod yn rhaid ichi newid eich ymddygiad, gallwch fod yn dioddef cam-drin domestig.

Mae Trais Rhywiol yn cynnwys cam-drin plant yn rhywiol, ymosod yn rhywiol, camfanteisio rhywiol, puteindra, anffurfio organau cenhedlu benywod, treisio ac ati. Pryd bynnag y digwyddodd, boed hynny dro ar ôl tro neu unwaith yn unig, os digwyddodd yn erbyn eich ewyllys, nid yw’n dderbyniol.

Os ydych yn teimlo bod eich partner yn fygythiol tuag atoch, os oes arnoch ofn y bydd eich partner yn ymateb yn ymosodol neu os yw cam-drin rhywiol wedi effeithio arnoch, codwch y ffôn i gysylltu ag un o’r asiantaethau lleol a rhestrir isod sydd yn darparu cymorth i ddynion a menywod 9am-5pm:

  • Calan DVS (Dyffryn Aman) - 01269 597474
  • CarmDas (Caerfyrddin) - 01267 238410
  • Threshold DAS (Llanelli) - 01554 752422
  • Goleudy - 0300 123 2996

Y tu allan i'r oriau hyn, neu os oes angen llety brys arnoch, cysylltwch â’r llinell gymorth gyfrinachol, rhad ac am ddim, i Gymru gyfan:

Mewn argyfwng, ffoniwch yr heddlu drwy ddeialu 999.

Os atebwch ‘Ydw’ i unrhyw un o’r cwestiynau canlynol, gallech chi fod mewn perthynas lle cewch eich cam-drin neu gallech fod mewn perthynas a allai ddatblygu’n un lle cewch eich cam-drin.

 

Adolygiadau Dynladdiad yn y Cartref

Daeth Adolygiadau Dynladdiad yn y Cartref (DHR) yn effeithiol ar 13 Ebrill 2011 a’u sefydlu ar sail statudol dan Adran 9 o Ddeddf Trais Teuluol, Trosedd a Dioddefwyr (2004). Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn gyfrifol am sefydlu DHR pan fo’n ymddangos bod marwolaeth rhywun 16 oed neu hŷn wedi deillio o drais, camdriniaeth neu esgeulustod gan berthynas, aelod o’r un aelwyd neu rywun oedd mewn perthynas bersonol agos â nhw.

Diben DHR yw:

  1. penderfynu pa wersi sydd i’w dysgu o’r dynladdiad yn y cartref o ran sut mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau lleol yn gweithio’n unigol ac ar y cyd i amddiffyn dioddefwyr
  2. nodi’n eglur beth yw’r gwersi hynny o fewn a rhwng asiantaethau, sut ac o fewn pa gyfnod y bydd gweithredu arnynt, a ph newid sydd i’w ddisgwyl o ganlyniad
  3. cymhwyso’r gwersi hyn i ymatebion gwasanaethau, gan gynnwys newidiadau i ysbrydoli polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol fel y bo’n briodol
  4. atal trais a dynladdiad yn y cartref a gwella ymatebion gwasanaethau i holl ddioddefwyr trais a chamdriniaeth yn y cartref a’u plant trwy ddatblygu agwedd amlasiantaethol gydgysylltiedig at sicrhau nodi ac ymateb yn effeithiol i gamdriniaeth yn y cartref ar y cyfle cyntaf.

Nid diben DHR yw archwilio pam y bu rhywun farw neu bwy sydd ar fai. Mae’n ychwanegol at unrhyw gwest neu fath arall o ymholiad i ddynladdiad.

Unwaith y bydd DHR wedi'i gwblhau a chymeradwyaeth wedi'i derbyn gan banel sicrhau ansawdd y Swyddfa Gartref, bydd yr adroddiad trosolwg a'r crynodeb gweithredol ar gael i'r cyhoedd am gyfnod cyfyngedig.