Llifogydd
Os gallwch ganfod ffynhonnell y llifogydd, gallwch roi gwybod yn uniongyrchol i'r sefydliad perthnasol. Os nad ydych yn sicr o ble mae'r dŵr yn dod, yna rhowch wybod i ni amdano.
Os yw'r llifogydd yn cael eu hachosi gan brif afon neu'r môr, ffoniwch Gyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000.
Os yw'r prif gyflenwad dŵr yn gollwng neu os oes llifogydd yn dod o garthffos, ffoniwch Dŵr Cymru ar 0800 052 0130.
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y prif gyflenwad dŵr yn gollwng a llifogydd dŵr daear ond os oes llif cyson nad yw'n amrywio gyda'r glaw yna gallai hyn olygu mai'r prif gyflenwad dŵr sy'n gollwng.
Dylid rhoi gwybod i ni am lifogydd o unrhyw ffynhonnell ddŵr arall, er enghraifft:
Peidiwch ag anghofio, os nad ydych yn sicr o ble mae'r dŵr yn dod, rhowch wybod i ni. Wrth lenwi ein ffurflen ar-lein, rhowch gymaint â phosibl o wybodaeth gan gynnwys unrhyw luniau neu ddeunydd fideo sydd gennych. Bydd hyn yn ein helpu i flaenoriaethu a chyfeirio adnoddau lle y mae arnynt eu hangen fwyaf.
Mewn argyfwng,y tu allan i oriau swyddfa arferol, mae Llesiant Delta yn darparu gwasanaeth mewn argyfwng ar *0300 333 2222. Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer argyfwng ac mae ar gael ar ôl 6pm a hyd at 8.30am ar ddiwrnodau gwaith, ac ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gŵyl Banc.
Gallwch roi gwybod nawr am unrhyw achosion brys tu allan i oriau ar wefan Llesiant Delta.
*Mae'n bosibl caiff galwadau eu recordio fel rhan o'n hymrwymiad i hyfforddiant, archwilio a sicrhau ansawdd.
Mwy ynghylch Argyfyngau a diogelwch cymunedol
Polisi ar gyfer dosbarthu bagiau tywod yn ystod achosion o lifogydd.