Ymchwiliad Ffurfiol i Ddigwyddiad
Adroddiodau adran 19
Ymchwiliad Ffurfiol i Ddigwyddiad
Mae adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gosod dyletswydd ar y cyngor fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol i gynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau llifogydd i'r graddau y mae'n ystyried bod angen gwneud hynny. Yr uned fusnes Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir sy'n cyflawni'r ddyletswydd hon ar gyfer yr Awdurdod.
Wrth ystyried a yw'n angenrheidiol neu'n briodol ymchwilio i ddigwyddiad llifogydd yn yr ardal, bydd yr uned fusnes Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir yn adolygu difrifoldeb y digwyddiad ynghyd â nifer yr eiddo yr effeithir arnynt ac amlder digwyddiad o'r fath.
Canllawiau presennol Llywodraeth Cymru yw ymgymryd ag adroddiad ymchwiliad ffurfiol A19 pan fo 20 neu ragor o achosion o lifogydd mewn eiddo.
Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Cydweli
Ar 4 a 20 Hydref 2021, cafodd trigolion a busnesau yng Nghydweli lifogydd yn dilyn dwy storm ddwys a byr ar ddau wahanol achlysur. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried bod y digwyddiadau hyn yn rhai difrifol, a gallwn gadarnhau bod 41 eiddo preswyl a 7 busnes yn anffodus wedi dioddef llifogydd mewnol yn ystod y digwyddiadau hyn.
Mae ymchwiliad wedi'i gynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol mewn ymateb i'r llifogydd a gafwyd ar y dyddiadau hyn. Mae'r adroddiad wedi ymchwilio i'r llifogydd ac mae canfyddiadau'r adroddiad wedi'u cyhoeddi isod. Mae'r adroddiad hwn yn grynodeb o'r ymchwiliad ac mae'n cynnwys gwybodaeth berthnasol sy’n ofynnol i fodloni'r gofynion statudol a osodir ar yr Awdurdod gan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Mae'r adroddiad wedi gwerthuso'n benodol y llifogydd yn yr ardaloedd canlynol
- Clos yr Helyg a Pharc Pendre,
- Llys Gwenllian,
- Cae Ffynnon a Heol y Fferi,
- Ger y Castell a Ger y Gwendraeth ac
- Ystâd Ddiwydiannol Cydweli.
Mae'r adroddiad wedi argymell 28 o gamau gweithredu, i'w cyflawni gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'i sefydliadau partner, er mwyn rheoli'r risg o lifogydd yn yr ardal yn well. Mae rhai o'r camau hyn eisoes wedi'u cwblhau ac eraill eisoes yn cael eu gweithredu. Er nad oes gan yr Awdurdod bwerau i orfodi Awdurdodau Rheoli Risg eraill a sefydliadau partner i gyflawni'r camau hyn, byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod y risg o lifogydd yng Nghydweli yn cael ei deall a'i rheoli'n well gan bawb yn y dyfodol.
Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Cydweli (5MB, pdf)