Caniatâd amddiffynfa rhag llifogydd

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/08/2023

O dan ddarpariaethau Deddf Draenio Tir 1991 a ddiwygiwyd gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (FWMA), mae gennym ddyletswydd erbyn hyn i reoli rhai gweithgareddau allai gael effaith andwyol ar risg llifogydd a’r amgylchedd.

Golyga hyn y bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd os ydych yn bwriadu adeiladu amddiffynfa rhag llifogydd neu wneud unrhyw waith mewn cwrs dŵr arferol. Byddwn wedyn yn dod allan i wirio methodolegau’r gwaith arfaethedig i sicrhau na fyddant yn effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd trwy lifogydd, llygredd, colli cynefinoedd neu niwed i fywyd gwyllt.

Ceir isod arweiniad i ba weithgareddau y mae’n rhaid cael caniatâd ar eu cyfer a pha rai nad oes. Beth bynnag y bwriadwch ei wneud, mae’n well cysylltu â ni cyn cynllunio unrhyw waith.

Nid oes angen caniatâd parhaol ar gyfer gwaith ar lannau afon. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar y llifau a’r fethodoleg adeiladu, efallai y bydd angen caniatâd dros dro arnoch.

Os cytunir gyda’n peirianwyr nad yw’r bibell yn atal llif yr afon, nid oes angen caniatâd.

Os nad yw’r bibell yn tarfu ar y llif, nid oes angen caniatâd arnoch. Fodd bynnag, efallai y bydd angen caniatâd ar gyfer gosod y bibell.

Byddai angen caniatâd dros dro ar gyfer gwaith toriad agored, ond nid felly ar gyfer drilio cyfeiriol.

Ni fyddai hyn yn cael ei ganiatáu gan ei fod yn creu mwy o risg o rwystrau a risg llifogydd.

Os yw pibell yn ymwthio i’r afon a glan yr afon, bydd angen caniatâd arnoch.

Os yw’r bibell yn cael ei gosod i mewn i’r tir o’r lan gyda chefnfur a ffedog concrit yn gwarchod y bibell, y gwely a’r glannau rhag erydu, efallai y bydd angen caniatâd dros dro arnoch.

Byddai’n well gennym pe bai pibelli ymwthiol yn cael eu cynllunio gyda chefnfur a ffedog concrit i sicrhau bod y lan a’r gwely’n cael eu gwarchod yn ddigonol.

Os nad yw’r bont yn atal llif nid oes angen caniatâd. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar y llifau a’r fethodoleg adeiladu, efallai y bydd angen caniatâd dros dro.

Mae angen caniatâd ar gyfer pob gwaith sianelu, waeth beth yw ei leoliad, hyd neu ddiamedr.

Dylai unrhyw geuffos arfaethedig fod yn gyfartal neu’n fwy o faint na’r sianel wreiddiol er mwyn cynnig yr un capasiti neu ragor.

Rhaid cynnal archwiliad hydrolegol ar gyfer pob cais ac os na fodlonir y safonau angenrheidiol caiff y cais ei wrthod. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â ni’n gyntaf i gytuno maint y geuffos.

Gall gridiau a sgriniau sorod gyflawni rôl ddefnyddiol yn cadw malurion allan o geuffosydd ac atal rhwystrau. Fodd bynnag, os na chânt eu cynllunio’n iawn gallant achosi rhwystrau.

Bydd angen caniatâd ar gyfer pob sgrin. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni yn gyntaf os ydych yn meddwl adeiladu strwythur o’r fath.

Gall graean yn cronni mewn cwrs dŵr gynyddu’r perygl o lifogydd mewn ardal. Mae rheolyddion amgylcheddion llym ar gael gwared â graean o gwrs dŵr.

Dylech gysylltu â ni i drafod unrhyw waith o’r math hwn.

Sut i wneud cais

Codir tâl o £50 fesul cais a gellir cynnwys un adeiladwaith fesul cais. Ni fydd angen ichi dalu ar hyn o bryd. Cymer ddau fis calendr i benderfynu pob cais.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni, anfonwch e-bost at FDCP@sirgar.gov.uk

Gwnewch gais am ganiatâd