Cynlluniau argyfwng
Mae argyfyngau yn digwydd. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf yng Nghymru cafwyd tywydd difrifol yn ystod y gaeaf, llifogydd, tarfu ar drefniadau teithio, prinder tanwydd, clefydau anifeiliaid a phandemig ffliw. Mae heriau fel y rhain yn effeithio arnom ni i gyd yn ein bywydau pob dydd, ac mae gan bob cymuned reswm gwahanol dros fod eisiau cynllunio i ddod drwyddynt.
Y newyddion da yw bod y ffordd y mae cymunedau yn eu trefnu eu hunain i baratoi ar gyfer argyfyngau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’r ffordd y mae cymunedau yn dod drwy argyfyngau yn dangos pa mor wydn ydynt – mae hyn yn golygu pa mor dda y maent yn gallu defnyddio’u cryfderau i baratoi ar gyfer, ymateb i ac adfer ar ôl argyfyngau.
Mae’r cymunedau sydd yn fwy gwydn:
- Yn ymwybodol o’r risgiau a all effeithio arnynt a pha mor agored y maent iddynt.
- Yn defnyddio’r sgiliau, gwybodaeth a’r adnoddau sydd ganddynt i baratoi ar gyfer canlyniadau argyfyngau, ac ymdrin â nhw.
- Yn cydweithio i gyfannu gwaith yr ymatebwyr brys lleol cyn, yn ystod ac ar ôl argyfwng.
Nid yw hyn yn golygu gwneud gwaith y gwasanaethau brys. Mae’n golygu cefnogi eich cymuned, a’r rheiny sydd ynddi, drwy wneud paratoadau synhwyrol a defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gan y gymuned.
Mwy ynghylch Argyfyngau a diogelwch cymunedol