Strategaeth a Chynllun Rheoli Perygl Llifogydd
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/08/2023
Nid oes un corff unigol yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd yn Sir Gaerfyrddin. O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, daethom yn Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ac mae’n ddyletswydd arnom i ddatblygu, cynnal, gweithredu a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol sy’n cynnwys dŵr ffo arwyneb, dŵr daear, a chyrsiau dŵr arferol.
Wrth ddatblygu’r strategaeth hon, rydym yn cydbwyso anghenion cymunedau, yr economi a’r amgylchedd. Mae ein strategaeth leol yn ffurfio’r fframwaith sy’n rhoi mwy o lais i gymunedau mewn penderfyniadau ynghylch rheoli’r peryglon yn lleol. Mae’n annog yr arfer o reoli peryglon yn fwy effeithiol drwy ganiatáu i drigolion, cymunedau, busnesau a’r sector cyhoeddus gydweithio i:
- sicrhau dealltwriaeth glir o beryglon llifogydd ac erydu, yn genedlaethol a lleol, er mwyn gallu blaenoriaethu’r buddsoddiad mewn camau rheoli peryglon yn fwy effeithiol;
- gosod cynlluniau clir a chyson i reoli peryglon er mwyn i gymunedau a busnesau allu gwneud penderfyniadau cytbwys ynglŷn â rheoli’r perygl sy’n weddill;
- annog dulliau arloesol o reoli peryglon llifogydd, gan roi ystyriaeth i anghenion cymunedau a’r amgylchedd;
- ffurfio cysylltiadau rhwng y strategaeth rheoli peryglon llifogydd lleol a chynllunio gofodol lleol;
- sicrhau bod cynlluniau argyfwng ac ymateb i achosion o lifogydd yn effeithiol a bod modd i gymunedau ymateb yn briodol i rybuddion o lifogydd;
- helpu cymunedau i adfer yn gyflymach ac yn fwy effeithiol yn dilyn achosion o lifogydd.
Rydym hefyd yn ymgymryd â’r canlynol:
- cynnal cofrestr o asedau – sef nodweddion ffisegol sy’n cael effaith sylweddol ar lifogydd yn ein hardal;
- ymchwilio i achosion o lifogydd lleol sylweddol a chyhoeddi canlyniadau ymchwiliadau o’r fath;
- sefydlu cyrff cymeradwyo ar gyfer dylunio, adeiladu a gweithredu Systemau Draenio Cynaliadwy;
- darparu cydsyniadau ar gyfer addasu, gwaredu neu ddisodli strwythurau neu nodweddion penodol ar gyrsiau dŵr arferol;
- chwarae rôl arweiniol yn y gwaith o gynllunio at argyfyngau ac adfer yn dilyn achosion o lifogydd.
- Rheoli asedau a chynlluniau uwchraddio
- Archwilio draeniau
- Gorfodi yn erbyn strwythurau anghyfreithlon mewn cyrsiau dŵr
- Cynlluniau i ddiogelu’r arfordir
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch ni ar ALGA@sirgar.gov.uk.