Gwrthderfysgaeth
Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024
CONTEST yw'r enw a roddir ar Strategaeth Gwrthderfysgaeth Llywodraeth y DU ac fe'i rhannir i bedair elfen:
- Ymlid (Pursue): i atal ymosodiadau terfysgol
- Amddiffyn (Protect): cryfhau'r amddiffyniad cyffredinol yn erbyn ymosodiadau terfysgol
- Atal (Prevent): i atal pobl rhag dod yn derfysgwyr a chefnogi eithafiaeth dreisgar
- Paratoi (Prepare): lle na allwn atal ymosodiad, lleddfu ei effaith
Adroddwch i
Ydych chi'n poeni am rywun sy'n dangos arwyddion sy'n peri pryder i chi? Gallwch chi roi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennych am berson bregus i unrhyw un o'r sefydliadau canlynol:
- Cyngor:
- i blant - ffoniwch 01554 742322 neu e-bost CRTChildren@carmarthenshire.gov.uk
- i oedolion - ffoniwch 0300 333 2222 neu e-bost diogeluoedolion@sirgar.gov.uk
- Heddlu: ffoniwch 101 neu adroddwch ar-lein ar www.dyfed-powys.police.uk/cy/prevent
- Crimestoppers: yn ddienw ar 0800 555 111 (am ddim 24/7) neu crimestoppers-uk.org
- Fearless: gall pobl ifanc adrodd yn ddienw trwy Fearless.org
Os ydych chi am roi gwybod am weithgarwch terfysgol amheus ffoniwch 999 os ydych chi'n amau bod perygl uniongyrchol. Ar gyfer pob gweithgaredd arall, ffoniwch y Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth ar 0800 789321 neu 101.
Mwy ynghylch Argyfyngau a diogelwch cymunedol