Cynlluniau argyfwng
mynd i mewn, aros i mewn, tiwnio i mewn
Creu cynllun argyfwng
Er bod yr ymatebwyr brys yn cynllunio, hyfforddi ac ymarfer i ymateb i argyfyngau, mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd camau i sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn gwybod beth i’w wneud os bydd argyfwng. Ar ôl argyfwng mawr, efallai na fydd y gwasanaethau arferol rydym yn eu cymryd yn ganiataol, megis dŵr tap, cyfleusterau oeri bwyd a ffonau, ar gael ac felly dylech baratoi i fod yn hunangynhaliol hyd nes y bydd rhagor o gymorth yn cyrraedd. Gallai treulio ychydig o funudau yn meddwl amdano nawr wneud gwahaniaeth mawr o ran helpu i’ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel. Dylech sicrhau bod pawb yn eich cartref yn gwybod am y cynllun a beth i’w wneud os bydd argyfwng.
Mae cynllunio at argyfyngau yn sicrhau bod y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy’n ymateb yn cyfathrebu ac yn cydgysylltu eu hymdrechion yn well, gan wella rheolaeth yn y fan a’r lle a’r broses adfer ar ôl trychineb ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin.
Mae sawl ffordd y gallwch sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn fwy parod ar gyfer argyfyngau. Os bydd argyfwng mawr yn digwydd, gall fod peth amser cyn bod cymorth yn cyrraedd. Mae’n bwysig iawn eich bod chi a’ch teulu yn dod at eich gilydd i baratoi. Lawrlwythwch a chwblhewch y templed ar gyfer cynllun argyfwng, gallwch gynnwys cyn lleied neu gymaint o wybodaeth ag y dymunwch. Os oes rhaid ichi adael eich cartref, ewch allan, arhoswch allan, ac ewch â phobl eraill gyda chi.
Lawrlwythwch dempled ar gyfer cynllun argyfwng
Cynlluniau argyfwng cymunedol
Mae nifer o bobl a chymunedau eisoes yn datblygu gwytnwch cymunedol. Nid yw’n ymwneud â chreu neu adnabod rhwydwaith cymunedol newydd, neu ymateb i ddigwyddiad neu adfer ar ôl digwyddiad unwaith yn unig, ond yn hytrach mae’n broses barhaus o ddefnyddio a datblygu cysylltiadau presennol i sicrhau bod ardal yn fwy parod ar gyfer argyfwng.
Bydd gan rai grwpiau cymunedol lleol sy’n bodoli wybodaeth am sut i gymryd rhan neu sut y gallant gynnwys gwytnwch yn eu hagenda. Gallai’r rhain gynnwys cynghorau tref neu gymuned, sefydliadau ffydd, grwpiau Gwarchod Cymdogaeth, grwpiau Sgowtiaid, cymdeithasau trigolion a grwpiau ieuenctid.
Dylai cymunedau wybod beth all ymatebwyr brys lleol wneud drostynt mewn argyfwng, ac i’r gwrthwyneb – mae hyn yn golygu siarad â nhw cyn y bydd argyfwng yn digwydd.

Pum cam er mwyn cychwyn arni
Awgrymiadau yn unig yw’r camau a nodir isod, er mwyn cychwyn arni o ran datblygu gwytnwch yn eich cymuned. Mae sawl ffordd arall o ddatblygu gwytnwch ac efallai y byddwch am deilwra’r cynllun i ddiwallu anghenion penodol eich cymuned:
1. Dechreuwch drwy ystyried pwy yw eich cymuned ac i ba gymunedau rydych yn perthyn
Cymunedau daearyddol (y bobl hynny sy’n byw’n agos ichi) yw’r dewis amlwg o ran gwytnwch cymunedol, a’r cymunedau hynny sy’n cael y budd mwyaf ohono.
Fodd bynnag, mae llawer o bobl nad ydynt yn cydnabod y bobl y maent yn byw yn agos iddynt yn gymuned. O’r herwydd, dylid ystyried cymunedau eraill (megis y rheiny sy’n rhannu diddordeb mewn pwnc neu gamp benodol) yn grwpiau dilys y gellir paratoi ar gyfer argyfyngau ynddynt.
Nid yw gwytnwch cymunedol yn ymwneud â chreu neu adnabod cymuned neu rwydwaith newydd; mae’n ymwneud ag ystyried yr hyn sydd eisoes yn bodoli o’ch amgylch, beth rydych eisoes yn ei wneud, pwy rydych eisoes yn siarad â nhw neu’n gweithio gyda nhw; a meddwl am sut y gallech gydweithio cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad neu argyfwng.
2. Dechreuwch drwy ystyried pwy yw eich cymuned ac i ba gymunedau rydych yn perthyn
Cysylltwch â rhwydweithiau lleol presennol y gallwch gydweithio â nhw
Mae nifer o grwpiau cymunedol eisoes yn gweithio i gefnogi a gwella bywyd yn ein cymunedau; e.e. wardeiniaid llifogydd, grwpiau Sgowtiaid, cynghorau tref neu gymuned, cymdeithasau trigolion a grwpiau Gwarchod Cymdogaeth. Meddyliwch am sut y gallech ddefnyddio eu sgiliau, adnoddau a’u harbenigedd i greu cymuned fwy gwydn.
3. Dewiswch gynrychiolydd cymunedol ar gyfer eich cynllun argyfwng
Mae’r bobl hyn yn cynrychioli eu cymuned leol drwy fod yn gyswllt rhwng y gymuned a’r cyrff statudol sy’n darparu gwasanaethau ymateb brys ar eu cyfer. Meddyliwch am bwy fyddai’n derbyn y rôl hon yn eich cymuned. Gallech ystyried gofyn i aelodau etholedig lleol gynrychioli’r gymuned a chydgysylltu’r gwaith hwn.
4. Sefydlwch Grŵp Argyfwng Cymunedol
Mae Grwpiau Argyfwng Cymunedol wedi’u sefydlu eisoes mewn ardaloedd gwledig a threfol, lle mae pobl wedi cydnabod yr angen i ystyried beth allai fod ei angen ar eu cymuned mewn argyfwng, ac maent wedi mynd ati i’w helpu eu hunain i baratoi. Nid oes rhaid ichi sefydlu grŵp newydd. Yn hytrach, gallech fod am ddatblygu a defnyddio grwpiau cymunedol sy’n bodoli ac ystyried sut y gallent gynnwys datblygu gwytnwch cymunedol yn eu gweithgareddau.
5. Datblygwch Gynllun Argyfwng Cymunedol
Ystyriwch sut y gallai eich cymuned ddefnyddio’r templed Cynllun Argyfwng Cymunedol. Mae’r templed yn cynnwys eitemau fel ffurflen asesu risgiau lleol, dogfennau i gofnodi adnoddau allweddol a’r sgiliau sydd ar gael yn lleol, yn ogystal ag awgrymiadau ynghylch rhestrau manylion cyswllt ar gyfer pobl allweddol a choeden galw allan.