Rydym yn un o'r cyflogwyr mwyaf a mwyaf amrywiol yn Ne Orllewin Cymru. Rydym yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy'n teimlo eu bod yn bodloni gofynion ein swyddi gwag heb ystyried hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oedran rhyw, hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodas neu bartneriaeth sifil. Rydym wedi ymrwymo i hybu cydraddoldeb ac i werthfawrogi amrywiaeth. Os bodlonir meini prawf hanfodol y swydd, mae'r Cyngor yn gwarantu y rhoddir cyfweliadau i bobl sydd ag anableddau, yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010.
Rhaid i pob un o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir NAD ydynt yn gymwys i wneud cais am yr hawl i weithio yn y DU o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE gael rhyw fath arall o ganiatâd mewnfudo yn eu galluogi i weithio o 1 Ionawr ymlaen. Ewch i wefan Llywodraeth y DU am wybodaeth bellach i ddeall eich hawl i weithio yn y DU.
Yn achos ymgeiswyr sydd angen ein nawdd ar gyfer cais Llwybr Gweithwyr Medrus, rhaid iddynt fodloni’r meini prawf cymhwysedd a bennir gan Lywodraeth y DU o dan y system ar sail pwyntiau. Cyn cyflwyno cais am y swydd wag, dylech wirio a yw’r rôl yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn y canllawiau Llwybr Gweithwyr Medrus a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
Sylwch fod gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas, felly bydd gweithwyr presennol sydd wedi'u cofrestru ar ein Cronfa Dalent Adleoli yn cael eu hystyried yn gyntaf.
Gofynnir ichi ddarllen y nodiadau ynghylch Sut i ymgeisio ac ar ôl ichi ddod o hyd i’r swydd berffaith, ewch ati i gwblhau a chyflwyno ffurflen gais ar-lein. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ewch i’n tudalen Cwestiynau cyffredin.
PWYSIG: Bydd eich cais yn cau ar ôl 30 munud – mae hyn am resymau diogelwch. Cofiwch gadw eich cais yn rheolaidd er mwyn osgoi colli unrhyw wybodaeth.
Mae pob swydd (Graddau A pwynt 1 – Gradd O pwynt 55) yn destun Dyfarniad Cyflog o 01/04/2022.
Cyflog: £19,100 - £19,257 (Gradd A) *Yn cynnwys Atodiad Cyflog Byw a 4% (pro rata)
Swydd barhaol - yn ystod y tymor yn unig
Dyddiad cau: 05/06/2022
Gwahoddir ceisiadau am Oruchwylydd amser cinio I weithio 5 awr yr wythnos o 12:00-1:00yp. Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Indeg Griffiths - 01269870306 - Indeg.griffiths@pontyberem.ysgolccc.cymru
Cyflog: £19,100 - £19,257 (Gradd A) *Yn cynnwys Atodiad Cyflog Byw a 4% (pro rata)
Swydd barhaol - yn ystod y tymor yn unig
Dyddiad cau: 10/06/2022
Rydym yn chwilio am uniogolion i gynorthwyo i baratoi a gweini prydau bwyd. Dyletswyddau cyffredinol y gegin a'r ystafell fwyta, i gynnwys gosod a chlirio byrddau, golchi llestri ac offer, a dyletswyddau cegin a glanhau eraill draws amrywiol leoliadau.
Mae cyfle i unigolion brwdfrydig a hyblyg ymuno â'r Is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth i gynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd i reoli a chyflawni swyddogaethau'r Gwasanaethau Priffyrdd yn gyffredinol ledled Sir Gaerfyrddin.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu rhaglen o weithgareddau a gynlluniwyd i fynd i'r afael â materion cysylltedd digidol sy'n effeithio ar gymunedau gwledig a bydd yn gweithio fel rhan o dîm ehangach.
Cyflog: £19,100 - £19,257 (Gradd A) *Yn cynnwys Atodiad Cyflog Byw a 4% (pro rata)
Swydd barhaol - yn ystod y tymor yn unig
Dyddiad cau: 05/06/2022
Rydym yn chwilio am uniogolion i gynorthwyo i baratoi a gweini prydau bwyd. Dyletswyddau cyffredinol y gegin a'r ystafell fwyta, i gynnwys gosod a chlirio byrddau, golchi llestri ac offer, a dyletswyddau cegin a glanhau eraill.
Mae cyfle wedi codi i unigolyn sy'n meddu ar gymhelliant cryf a brwdfrydedd ymuno â'r Is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth i gefnogi'r Adain Rheoli Traffig yn yr Uned Traffig a Diogelwch Ffyrdd.
Rydym yn chwilio am unigolion brwd, egnïol, cryf eu cymhelliad i ymuno â'n tîm o hyfforddwyr ffitrwydd i weithio'n achlysurol yn y gampfa (yn ystod cyfnodau salwch, gwyliau blynyddol a digwyddiadau eraill pan fydd angen staff ychwanegol).
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rhaglenni a phrosiectau cryf, ac yn ddelfrydol bydd ganddo rywfaint o wybodaeth/profiad o gyflawni gweithredol ym maes iechyd a gofalcymdeithasol. Bydd hefyd yn cynorthwyo Pennaeth y Bartneriaeth o ran mentrau'r rhaglen yn ôl yr angen.