Gweithio yn Sir Gâr

Gwaith, Bywyd, Cydbwysedd

Mae Sir Gaerfyrddin yn sir sydd â rhywbeth i bawb ac mae'n lle perffaith i fyw, gweithio a chwarae.

Mae'r Sir yn cynnig ystod amrywiol a chynyddol o gyfleoedd cyflogaeth sy'n darparu ar gyfer gwahanol sgiliau a diddordebau.

Rydym wrthi'n datblygu prosiect cyffrous ac uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd, sef datblygiad Pentre Awel, fydd yn creu swyddi a thai yn ogystal â chyfleusterau ymchwil feddygol a gofal iechyd o'r radd flaenaf. Mae'r tirweddau ffrwythlon yn meithrin amaethyddiaeth a busnes amaeth ffyniannus, ac mae'r sectorau gweithgynhyrchu a thechnoleg yn parhau i dyfu. Mae'r sectorau addysg hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at y farchnad swyddi leol, ac mae'r diwydiant twristiaeth yn manteisio ar harddwch naturiol ac atyniadau hanesyddol Sir Gaerfyrddin, gan arwain at gyfleoedd cyflogaeth ychwanegol yn y sectorau lletygarwch a gwasanaeth.

Mae cyfuniad amrywiol o gymunedau gwledig a threfol dwyieithog cyfeillgar yn rhoi ei chymeriad unigryw a nodedig i'r sir.

Mae mynyddoedd garw, bryniau ysgafn a dyffrynnoedd gwyrdd yn dominyddu ardaloedd gogleddol a chanolog y sir, ac yn y de mae ein harfordir prydferth, gyda golygfeydd dros Benrhyn Gŵyr, ar draws y tywod euraidd a thraethau baner las yn ymestyn i Bentywyn yn y Gorllewin.

Mae'r farchnad swyddi amrywiol yn Sir Gaerfyrddin yn sicrhau y gall unigolion sydd â dyheadau gyrfa gwahanol ddod o hyd i gyfleoedd boddhaus. Mae cysylltiadau ffyrdd da, un o'r cyfraddau troseddu isaf yn y DU, cefn gwlad ac arfordir hardd, ysgolion da a thai yn golygu bod ansawdd bywyd yn wych yn Sir Gaerfyrddin.