Cwestiynau cyffredin - Prentisiaethau

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Swydd â thâl yw prentisiaeth. Fel prentis, byddwch yn dysgu sgiliau sy'n berthnasol i'r rôl rydych chi'n hyfforddi i'w gwneud, yn cwblhau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn ennill cyflog. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol a fydd yn eich cefnogi i ennyn profiad a dysgu am y swydd.

Mae yna 5 lefel o brentisiaethau. Mae rhain yn:

  • Lefel 2 - Prentisiaeth Sylfaenol
  • Lefel 3 - Prentisiaeth
  • Lefel 4/5 - Prentisiaeth Uwch
  • Lefel 6 - Prentisiaeth Gradd

Mae'r lefel yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani.

Mae modd i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ddilyn prentisiaeth, nid oes uchafswm o ran oedran ond mae'n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani.

Ni fydd angen i chi dalu unrhyw gostau tuag at eich hyfforddiant oherwydd byddwn ni'n talu'r costau.

Bydd hyn yn dibynnu ar ba gymhwyster rydych chi'n ei wneud. Mae yna wahanol ffyrdd i gefnogi eich dysgu ochr yn ochr â'r profiad gwaith, er enghraifft:

  • Mynychu sesiynau rhithwir
  • Mynychu coleg yn rhan-amser
  • Mynychu canolfan hyfforddi leol lle mae modd ichi fynychu un diwrnod yr wythnos neu gyfnod ar ei hyd.
  • Os ydych chi'n dilyn cwrs Gradd Prentis, byddwch chi'n mynychu'r Brifysgol neu'r Coleg

Mae hyd y cyfnod prentisiaeth yn dibynnu ar y cymhwyster rydych chi'n anelu tuag ato. Fel arfer, mae ein cyfnod prentisiaethau yn para rhwng deunaw mis a phedair blynedd.

Byddwch yn cael cefnogaeth yn ystod y cyfnod gan y Cydlynydd Dysgu Cysylltiedig â Gwaith yn ogystal â'ch rheolwr a'ch cydweithwyr.

Rydym yn Gyflogwr sydd â Hyder Mewn Pobl Anabl a byddwn yn eich cefnogi chi wrth weithio fel y gallwch weithio'n hyderus yn eich rôl newydd.

Bydd hyn yn dibynnu ar eich prentisiaeth. Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin swyddfeydd ledled y sir ond y prif swyddfeydd y bydd prentisiaid wedi'u lleoli ynddynt fydd:

  • Caerfyrddin
  • Llanelli
  • Rhydaman

Bydd eich cyflog yn amrywio yn dibynnu ar lefel y brentisiaeth rydych chi am ei gwneud. Bydd angen i chi wirio'r hysbyseb swydd i weld y cyflog.

Llwythwch mwy