Gwaith, Bywyd, Cydbwysedd
Lle bynnag yr ydych yn eich bywyd, mae gan Sir Gâr rywbeth i'w gynnig ac mae'n lle perffaith i fyw, gweithio a chwarae. Gyda threfi bywiog a'i thirweddau ffrwythlon, beth am gael y gorau o ddau fyd a gweithio i ni.
Ardal â'r gyfradd isaf o droseddau
Ym mis Medi 2023 fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gofnodi'r gyfradd isaf o droseddau yng Nghymru.
Ysgolion Ardderchog
Rydym yn cynnal 1 ysgol feithrin, 94 ysgol gynradd, 12 ysgol uwchradd ac 1 ysgol arbennig yn Sir Gâr. Maent yn darparu addysg i dros 27,000 o ddisgyblion.
Traethau
O Amroth yn y gorllewin i Lanelli yn y dwyrain, mae arfordir Sir Gâr yn ymestyn am 67 milltir.
Prifysgolion a Cholegau
Sir Gâr yw cartref Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a choleg addysg bellach, Coleg Sir Gâr.
Prisiau Tai
£194,000 yw cyfartaledd prisiau tai'r sir
Lleoedd Hanesyddol
Os mai hanes sy'n mynd â'ch bryd yna mae gan Sir Gâr lawer o gestyll hynafol a thai hanesyddol i'w harchwilio, pob un â'i stori gyfoethog ei hun i'w rhannu.
Cyrsiau Golff
Ydych chi'n ffansio gêm o golff? Mae gennym 7 cwrs golff ledled y Sir.
Yr Awyr Agored
Gyda digonedd o fannau gwyrdd a gerddi yn y Sir, nid yw'n syndod y gelwir Sir Gâr yn Ardd Cymru.
Ysbytai
Mae gennym ddau ysbyty cyffredinol yng Nghaerfyrddin a Llanelli yn ogystal â 2 ysbyty cymunedol yn Nyffryn Aman a Llanymddyfri.
Lleoedd i fwyta
Os ydych chi'n ystyried eich hun yn fwydgarwr, yna byddwch wrth eich bodd gyda'r dewis yn Sir Gâr, bwyd sy'n cael ei gyflwyno gydag angerdd, a’i baratoi gyda gofal.
Diwylliant
Cartref i theatrau a sinemâu, orielau ac amgueddfeydd. Byddwch yn dod o hyd i ddiwylliant sy'n ffynnu.
Lle gwych i fod
Rydym yn falch o allu dweud bod 90% o ymwelwyr yn hapus â'r Sir.